LEFITICUS 7
Offrwm i gyfaddef bai
1 “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gyfaddef bai (sy'n gysegredig iawn):
2 Rhaid i'r offrwm i gyfaddef bai gael ei ladd yn yr un lle ag mae'r offrwm i'w losgi'n llwyr yn cael ei ladd. Mae'r gwaed i gael ei sblasio o gwmpas yr allor.
3 Rhaid cyflwyno braster yr anifail i gyd: y braster ar y gynffon lydan, y braster o gwmpas perfeddion yr anifail,
4 y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
5 Bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor yn offrwm i'r ARGLWYDD. Mae'n offrwm i gyfaddef bai.
6 Dim ond y dynion, sef yr offeiriaid, sy'n cael ei fwyta. Rhaid ei fwyta mewn lle sydd wedi'i gysegru. Mae'n gysegredig iawn.
7 “Mae'r drefn yr un fath gyda'r offrwm i gyfaddef bai a'r offrwm i lanhau o bechod. Yr offeiriad sy'n gwneud pethau'n iawn gyda'r offrwm sydd i gael y cig.
8 Yr offeiriad sy'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi ar ran unigolyn sy'n cael cadw croen yr anifail.
9 A'r un fath gyda'r offrwm o rawn. Yr offeiriad sy'n ei gyflwyno sy'n cael cadw'r offrwm sydd wedi'i baratoi mewn popty, padell neu ar radell.
10 Ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, i rannu pob offrwm o rawn sydd heb ei goginio, p'run ai wedi'i gymysgu gydag olew olewydd neu'n sych.
Yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD
11 “Dyma'r drefn gyda'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD:
12 Os ydy rhywun yn ei gyflwyno i ddweud diolch am rywbeth, rhaid cyflwyno offrwm gydag e sydd wedi'i wneud o'r blawd gwenith gorau: bara heb furum ynddo wedi'i gymysgu gydag olew olewydd, bisgedi tenau wedi'u brwsio gydag olew, a bara wedi'i wneud o'r blawd gwenith gorau ac wedi'i socian mewn olew.
13 Wrth gyflwyno'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid dod â bara wedi'i wneud gyda burum hefyd.
14 Rhaid rhoi un dorth o bob math o offrwm o rawn yn gyfraniad i'r offeiriad sy'n sblasio gwaed yr offrwm o gwmpas yr allor.
15 Wedyn rhaid i gig yr aberth i ddweud diolch gael ei fwyta ar y diwrnod mae'n cael ei offrymu. Does dim ohono i gael ei gadw tan y bore wedyn.
16 Ond os ydy'r aberth yn cael ei gyflwyno am fod rhywun yn gwneud addewid neu'n rhoi rhywbeth o'i wirfodd i'r ARGLWYDD, mae'n iawn i gadw peth ohono a'i fwyta y diwrnod wedyn.
17 Ond os oes unrhyw gig dros ben ar ôl hynny, rhaid ei losgi y diwrnod wedyn.
18 Ddylai cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD ddim cael ei fwyta fwy na diwrnod ar ôl ei gyflwyno. Os ydy hynny'n digwydd, fydd y person sydd wedi cyflwyno'r offrwm ddim yn cael ei dderbyn. Bydd yr offrwm wedi'i sbwylio, a bydd unrhyw un sydd wedi'i fwyta yn cael ei gyfri'n euog.
19 “Os ydy'r cig wedi cyffwrdd unrhyw beth sy'n aflan, dydy e ddim i gael ei fwyta. Rhaid ei losgi. Ond, fel arall, mae unrhyw un sydd yn lân yn seremonïol yn gallu ei fwyta.
20 Os ydy rhywun yn dal yn aflan ac yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
21 Pan fydd rhywun wedi cyffwrdd unrhyw beth aflan sy'n dod o'r corff dynol, neu gorff anifail neu ryw greadur arall, ac wedyn yn bwyta cig yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
Peidio bwyta'r gwaed a'r braster
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23 “Dwed wrth bobl Israel: Rhaid i chi beidio bwyta braster unrhyw anifail – gwartheg, defaid na geifr.
24 Os oes anifail wedi marw neu wedi cael ei ladd gan anifail gwyllt, gallwch ddefnyddio'r braster i wneud unrhyw beth, ond rhaid i chi beidio ei fwyta.
25 Os oes unrhyw un yn bwyta braster anifail sydd wedi cael ei offrymu i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
26 Peidiwch bwyta gwaed unrhyw aderyn neu anifail, ble bynnag dych chi'n byw.
27 Bydd unrhyw berson sy'n bwyta gwaed yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.”
Cyfran yr offeiriaid
28 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
29 “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn cyflwyno offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, rhaid i'r person ei hun ddod â'r offrwm i'r ARGLWYDD.
30 Mae i ddod â'r braster a'r frest. Mae'r frest i gael ei chodi'n uchel a'i chyflwyno'n offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD.
31 Bydd offeiriad yn llosgi'r braster ar yr allor, ond mae'r offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cael cadw'r frest.
32-33 Rwyt i roi darn uchaf y goes ôl dde i'r offeiriad sy'n cyflwyno gwaed a braster yr aberth. Mae e i gael cadw'r darn hwnnw.
34 Dw i'n cymryd y frest sydd i'w chwifio a darn uchaf y goes ôl dde gan bobl Israel. Dyna'r rhannau o'r offrwm hwn mae pobl Israel i'w rhoi bob amser i Aaron yr offeiriad a'i ddisgynyddion.”
35 Ers i Moses eu cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i'r ARGLWYDD, dyna'r rhannau o'r offrymau oedd i gael eu rhoi i Aaron a'i feibion.
36 Yr ARGLWYDD ddwedodd, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses, mai dyna oedd i gael ei roi iddyn nhw. Dyna beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.
37 Felly dyma'r drefn sydd i'w chadw gyda'r offrwm i'w losgi, yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, yr offrwm i gyfaddef bai, yr offrwm ordeinio, a'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
38 Dyma wnaeth yr ARGLWYDD ei orchymyn i Moses ar fynydd Sinai pan oedd pobl Israel yn yr anialwch. Dyma'r offrymau oedd pobl Israel i'w cyflwyno iddo.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity