LEFITICUS 9
Yr offeiriaid yn dechrau ar eu gwaith
1 Wythnos wedyn, pan oedd y seremoni ordeinio drosodd, dyma Moses yn galw Aaron a'i feibion ac arweinwyr Israel at ei gilydd.
2 A dyma fe'n dweud wrth Aaron, “Cymer fustach ifanc a hwrdd sydd â dim byd o'i le arnyn nhw. Offryma'r bustach i'r ARGLWYDD fel offrwm i lanhau o bechod, a'r hwrdd fel offrwm i'w losgi.”
3 Yna dywed wrth bobl Israel, “Cymerwch fwch gafr yn offrwm i lanhau o bechod, llo blwydd oed ac oen heb ddim byd o'i le arnyn nhw yn offrwm i'w losgi,
4 a bustach a hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Mae'r rhain i gael eu haberthu gydag offrwm o rawn wedi'i gymysgu gydag olew olewydd. Gwnewch hyn am fod yr ARGLWYDD yn mynd i ddod i'r golwg heddiw.”
5 Felly dyma nhw'n dod â'r cwbl oedd Moses wedi'i ddweud o flaen y Tabernacl. A dyma'r bobl i gyd yn sefyll yno o flaen yr ARGLWYDD.
6 A dyma Moses yn dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrthoch chi am wneud hyn, i chi gael gweld ei ysblander e.”
7 Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd drwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti a Duw a rhwng dy bobl a Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
8 Felly dyma Aaron yn mynd at yr allor ac yn lladd y llo yn offrwm dros ei bechod ei hun.
9 Wedyn dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo. Dyma Aaron yn rhoi ei fys yn y gwaed, ac yn ei roi ar gyrn yr allor. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor.
10 Yna llosgi'r braster, yr arennau a rhan isaf yr iau ar yr allor, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
11 Wedyn dyma fe'n llosgi'r croen a'r cig tu allan i'r gwersyll.
12 Dyma fe'n lladd yr offrwm i'w losgi nesaf. A dyma'i feibion yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma Aaron yn ei sblasio o gwmpas yr allor.
13 Roedden nhw wedi cyflwyno'r anifail iddo bob yn ddarn, gan gynnwys y pen, ac roedd wedi llosgi'r cwbl ar yr allor.
14 Dyma fe'n golchi'r coluddion a'r coesau ôl, ac wedyn eu llosgi nhw ar ben gweddill yr offrwm ar yr allor.
15 Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd drwy'r un ddefod o buro ag o'r blaen.
16 Wedyn dyma fe'n cyflwyno'r offrwm i'w losgi, gan ddilyn y ddefod arferol wrth wneud hynny.
17 Wedyn yr offrwm o rawn. Cymerodd lond llaw ohono a'i losgi ar yr allor gyda'r offrwm oedd i'w losgi yn y bore.
18 Ar ôl hynny, dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
19 Wedyn cymerodd fraster y bustach a'r hwrdd – braster y gynffon, y braster o gwmpas y perfeddion, y ddwy aren a'r braster sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau.
20 A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna'n llosgi'r braster i gyd ar yr allor.
21 Wedyn dyma Aaron yn codi'r brestiau a rhan uchaf y goes ôl, ac yn eu cyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD. Gwnaeth yn union fel roedd Moses wedi dweud.
22 Wedyn dyma Aaron yn troi at y bobl ac yn codi ei ddwylo a'u bendithio nhw. Ar ôl gorffen cyflwyno'r offrymau i gyd, daeth i lawr o'r allor,
23 ac yna mynd gyda Moses i mewn i babell presenoldeb Duw. Pan ddaethon nhw allan, dyma nhw'n bendithio'r bobl, a dyma'r bobl i gyd yn gweld ysblander yr ARGLWYDD.
24 Yna dyma'r ARGLWYDD yn anfon tân i losgi popeth oedd ar yr allor. Pan welodd pawb hyn, dyma nhw'n gweiddi'n llawen ac yn plygu'n isel a'u hwynebau ar lawr.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity