|
|
(Mathew 22:1-10)
15 Clywodd un o'r bobl oedd yn eistedd wrth y bwrdd hyn, a dwedodd wrth Iesu, “Mae'r rhai fydd yn cael bwyta yn y wledd pan ddaw Duw i deyrnasu wedi'u bendithio'n fawr!” 16 Atebodd Iesu: “Roedd rhyw ddyn wedi trefnu gwledd fawr a gwahodd llawer o bobl iddi. 17 Pan oedd popeth yn barod, anfonodd ei was i ddweud wrth y rhai oedd wedi cael gwahoddiad, ‘Dewch, mae'r wledd yn barod.’ 18 “Ond dyma bob un ohonyn nhw yn dechrau hel esgusion. Dyma un yn dweud, ‘Dw i newydd brynu ychydig o dir, ac mae'n rhaid i mi fynd i'w weld. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’ 19 “Dyma un arall yn dweud, ‘Dw i newydd brynu pum pâr o ychen, a dw i'n mynd i roi prawf arnyn nhw. Wnei di f'esgusodi fi os gweli di'n dda?’ 20 “A dyma un arall eto yn dweud, ‘Dw i newydd briodi, felly alla i ddim dod.’ 21 “Felly dyma'r gwas yn mynd yn ôl a dweud wrth ei feistr beth oedd wedi digwydd. Roedd y meistr wedi gwylltio, ac meddai wrth y gwas, ‘Dos i'r dre ar unwaith, a thyrd â'r bobl sy'n cardota ar y strydoedd i mewn yma – y tlawd, y methedig, pobl sy'n gloff ac yn ddall.’ 22 “Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna le ar ôl o hyd.’ 23 “Felly dyma'r meistr yn dweud, ‘Dos allan o'r ddinas, i'r ffyrdd a'r lonydd yng nghefn gwlad. Perswadia'r bobl sydd yno i ddod. Dw i eisiau i'r tŷ fod yn llawn. 24 Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi'i threfnu.’”(Mathew 10:37,38)
25 Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud: 26 “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! – ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd – ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi. 27 A does neb yn gallu bod yn ddisgybl i mi chwaith heb gario ei groes a cherdded yr un llwybr o hunanaberth. 28 “Does neb yn mynd ati i adeiladu adeilad mawr heb eistedd i lawr yn gyntaf i amcangyfri'r gost a gwneud yn siŵr fod ganddo ddigon o arian i orffen y gwaith. 29 Does dim pwynt iddo fynd ati i osod y sylfeini ac wedyn darganfod ei fod yn methu ei orffen. Byddai pawb yn gwneud hwyl ar ei ben, 30 ac yn dweud ‘Edrychwch, dyna'r dyn ddechreuodd y gwaith ar yr adeilad acw a methu ei orffen!’ 31 “A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno. 32 Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch – a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd! 33 Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i.(Mathew 5:13; Marc 9:50)
34 “Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto? 35 Dydy e'n gwneud dim lles i'r pridd nac i'r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity