|
|
(Mathew 19:13-15; Marc 10:13-16)
15 Roedd pobl yn dod â'u babis bach at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw. 16 Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw. 17 Credwch chi fi, heb ymddiried fel plentyn bach, wnewch chi byth ddod yn un o'r rhai mae Duw'n teyrnasu yn eu bywydau.”(Mathew 19:16-30; Marc 10:17-31)
18 Un tro gofynnodd rhyw arweinydd crefyddol y cwestiwn yma i Iesu: “Athro da, beth alla i ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” 19 “Pam wyt ti'n fy ngalw i'n dda?” meddai Iesu. “Onid Duw ydy'r unig un sy'n dda? 20 Ti'n gwybod beth wnaeth Duw ei orchymyn: ‘Paid godinebu, paid llofruddio, paid dwyn, paid rhoi tystiolaeth ffals, gofala am dy dad a dy fam.’Croes” 21 Atebodd y dyn, “Dw i wedi cadw'r rheolau yma i gyd ers pan o'n i'n fachgen ifanc.” 22 Pan glywodd Iesu hynny, dwedodd wrth y dyn, “Mae un peth arall ar ôl. Gwertha bopeth, dy eiddo i gyd, a rhannu'r arian gyda phobl dlawd. Wedyn cei di drysor yn y nefoedd. Yna tyrd, dilyn fi.” 23 Doedd y dyn ddim yn hapus o gwbl pan glywodd beth ddwedodd Iesu, am ei fod yn ddyn cyfoethog dros ben. 24 Edrychodd Iesu ar y dyn yn cerdded i ffwrdd, ac meddai wrth ei ddisgyblion, “Mae hi mor anodd i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau! 25 Mae'n haws i gamel wthio drwy grau nodwydd nag i bobl gyfoethog adael i Dduw deyrnasu yn eu bywydau!” 26 Dyma'r rhai glywodd hyn yn dweud, “Oes gobaith i unrhyw un gael ei achub felly?” 27 Atebodd Iesu, “Mae Duw yn gallu gwneud beth sy'n amhosib i bobl ei wneud.” 28 Dyma Pedr yn ymateb, “Edrych, dŷn ni wedi gadael popeth sydd gynnon ni i dy ddilyn di!” 29 “Credwch chi fi,” meddai Iesu wrthyn nhw, “bydd pwy bynnag sydd wedi mynd oddi cartref a gadael gwraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw 30 yn derbyn llawer iawn mwy yn y bywyd yma. Ac yn yr oes sydd i ddod byddan nhw'n derbyn bywyd tragwyddol!”(Mathew 20:17-19; Marc 10:32-34)
31 Aeth Iesu â'r deuddeg disgybl i'r naill ochr, a dweud wrthyn nhw, “Pan gyrhaeddwn ni Jerwsalem, daw'r cwbl mae'r proffwydi wedi'i ysgrifennu amdana i, Mab y Dyn, yn wir. 32 Bydda i'n cael fy rhoi yn nwylo'r Rhufeiniaid. Ref Byddan nhw'n gwneud sbort am fy mhen, yn fy ngham-drin, ac yn poeri arna i. 33 Yna bydda i'n cael fy chwipio a'm lladd. Ond yna, ddeuddydd wedyn bydda i'n dod yn ôl yn fyw.” 34 Doedd y disgyblion ddim yn deall hyn o gwbl. Roedd y cwbl yn ddirgelwch pur iddyn nhw, a doedd ganddyn nhw ddim syniad am beth roedd e'n siarad.(Mathew 20:29-34; Marc 10:46-52)
35 Pan oedd Iesu'n agosáu at Jericho dyma ddyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd 36 yn clywed sŵn tyrfa o bobl yn pasio heibio, a dyma fe'n gofyn, “Beth sy'n digwydd?” 37 “Iesu o Nasareth sy'n pasio heibio,” meddai rhywun wrtho. 38 Felly dyma'r dyn dall yn gweiddi'n uchel, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” 39 “Cau dy geg!” meddai'r bobl oedd ar flaen y dyrfa. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi'n uwch fyth, “Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” 40 Dyma Iesu'n stopio, ac yn dweud wrthyn nhw am ddod â'r dyn ato. Pan ddaeth ato, gofynnodd i'r dyn, 41 “Beth ga i wneud i ti?” “Arglwydd,” meddai, “dw i eisiau gallu gweld.” 42 Yna dwedodd Iesu wrtho, “Iawn, cei di weld; am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu.” 43 Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu gan foli Duw. Ac roedd pawb welodd beth ddigwyddodd yn moli Duw hefyd!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity