|
|
(Mathew 1:18-25)
1 Tua'r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy'r Ymerodraeth Rufeinig i gyd. 2 (Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.) 3 Roedd pawb yn mynd adre i'r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad. 4 Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu'r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. 5 Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi. 6 Tra oedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, 7 a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.14 “Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf,
heddwch ar y ddaear islaw,
a bendith Duw ar bobl.”
15 Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi'i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.” 16 Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. 17 Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. 18 Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. 19 Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn. 20 Aeth y bugeiliaid yn ôl i'w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi'i weld a'i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.29 “O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was,
bellach farw mewn heddwch!
Dyma wnest ti ei addo i mi –
30 dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.
31 Rwyt wedi'i roi i'r bobl i gyd;
32 yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld,
ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.”
33 Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu. 34 Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod, 35 a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.” 36 Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi. 37 Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo. 38 Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem. 39 Pan oedd Joseff a Mair wedi gwneud popeth roedd Cyfraith yr Arglwydd yn ei ofyn, dyma nhw'n mynd yn ôl adre i Nasareth yn Galilea. 40 Tyfodd y plentyn yn fachgen cryf a doeth iawn, ac roedd hi'n amlwg bod ffafr Duw arno.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity