|
|
1 “Edrychwch, dw i'n anfon fy negesydd,
a bydd e'n paratoi'r ffordd ar fy nghyfer i.
Ac yn sydyn, bydd y Meistr dych chi'n ei geisio
yn dod i'w deml.
Ydy, mae angel yr ymrwymiad,
dych chi'n honni ei hoffi, ar ei ffordd!”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.2 Ond pa obaith sydd ar y diwrnod pan ddaw?
Pwy all oroesi pan ddaw i'r golwg?
Achos mae e fel tân sy'n toddi metel
neu sebon y golchwr.
3 Bydd yn eistedd fel un sy'n coethi arian;
ac yn puro disgynyddion Lefi –
bydd yn eu gloywi fel aur ac arian,
er mwyn iddyn nhw gyflwyno offrymau iawn i'r
ARGLWYDD.4 Bryd hynny bydd offrymau Jwda a Jerwsalem
yn plesio'r
ARGLWYDDfel roedden nhw ers talwm,
yn yr hen ddyddiau.
5 “Dw i'n mynd i ddod atoch chi i farnu;
dw i'n barod i dystio yn erbyn
pawb sydd ddim yn fy mharchu –
y rhai sy'n dewino ac yn godinebu,
sy'n dweud celwydd ar lw,
sy'n gormesu gweithwyr (drwy atal eu cyflog),
yn cam-drin gweddwon a phlant amddifad,
ac yn gwrthod eu hawliau i fewnfudwyr,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus. ARGLWYDD, a dw i ddim wedi newid,a dych chi ddim wedi stopio bod yn blant i'ch tad Jacob!”
7 “Ers canrifoedd Ref dych chi wedi bod yn troi cefn ar fy neddfau,
a ddim yn eu cadw.
Trowch yn ôl ata i, a bydda i'n troi atoch chi”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.“Pam bod angen i ni droi'n ôl?” meddech chi.
8 “Ydy'n iawn i ddwyn oddi ar Dduw?
Ac eto dych chi'n dwyn oddi arna i.”
“Sut ydyn ni'n dwyn oddi arnat ti?” meddech chi.
“Drwy gadw'r degymau a'r offrymau.
am eich bod chi'n dwyn oddi arna i
– ie, y cwbl lot ohonoch chi!
10 Dewch â'r degwm llawn i'r stordy,
fel bod yna fwyd yn fy nheml.
Ie, rhowch fi ar brawf,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus,“a chewch weld y bydda i'n agor llifddorau'r nefoedd
ac yn tywallt bendith arnoch chi;
fyddwch chi'n brin o ddim byd!
11 Bydda i'n cael gwared â'r locustiaid,
rhag iddyn nhw ddinistrio cnydau'r tir;
fydd y gwinwydd yn y winllan ddim yn methu,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.12 “Bydd y gwledydd eraill i gyd yn dweud
eich bod wedi'ch bendithio,
am eich bod yn byw mewn gwlad mor hyfryd,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.13 “Dych chi wedi dweud pethau ofnadwy yn fy erbyn i,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.“Beth ydyn ni wedi'i ddweud yn dy erbyn di?” meddech chi.
14 “Chi'n dweud, ‘Does dim pwynt gwasanaethu Duw.
Beth ydyn ni wedi'i ennill o wrando arno
a mynd o gwmpas yn edrych yn drist
o flaen yr
ARGLWYDD hollbwerus?15 Mae'r bobl sy'n haerllug yn hapus! –
maen nhw'n gwneud drwg ac yn llwyddo;
maen nhw'n herio Duw ac yn dianc!’”
16 Ond yna, dyma'r rhai oedd wir yn parchu'r ARGLWYDD yn trafod gyda'i gilydd. Clywodd yr ARGLWYDD nhw, a chymryd sylw o'r peth, a gorchymyn i gofnod gael ei ysgrifennu yn y sgrôl sy'n rhestru'r rhai sy'n parchu'r ARGLWYDD ac yn meddwl yn uchel ohono.—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus,“fy nhrysor sbesial ar y diwrnod sy'n dod.
Bydda i'n gofalu amdanyn nhw
fel mae tad yn gofalu am fab sy'n gweithio iddo.
18 Byddwch chi'n gweld y gwahaniaeth
rhwng yr un sydd wedi byw'n iawn a'r rhai drwg,
rhwng y sawl sy'n gwasanaethu Duw
a'r rhai sydd ddim.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity