|
|
mae fel ffwrnais yn llosgi.
Bydd yr holl rai haerllug sy'n gwneud drwg
yn cael eu llosgi fel bonion gwellt,
ar y diwrnod sy'n dod,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.“Byddan nhw'n llosgi'n ulw
nes bydd dim gwreiddyn na changen ar ôl.
2 Ond bydd haul cyfiawnder yn gwawrio
arnoch chi sy'n fy mharchu i,
a iachâd yn ei belydrau.
Byddwch yn mynd allan,
yn neidio fel llo wedi'i ollwng yn rhydd.
3 Byddwch yn sathru'r rhai drwg,
a byddan nhw fel lludw dan eich traed
ar y diwrnod y bydda i'n gweithredu,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.4 Cofiwch ddysgeidiaeth Moses, fy ngwas;
y rheolau a'r canllawiau rois iddo ar Fynydd Sinai Ref
ar gyfer Israel gyfan.
5 Edrychwch, dw i'n anfon y proffwyd Elias atoch chi
cyn i ddiwrnod mawr a dychrynllyd yr
ARGLWYDD ddod.6 Bydd yn annog rhieni a phlant i droi'n ôl ata i,
rhag i mi ddod a tharo'r wlad, a'i dinistrio'n llwyr.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity