|
|
(Mathew 21:1-11; Luc 19:28-40; Ioan 12:12-19)
1 Dyma nhw'n cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem. Dyma Iesu'n dweud wrth ddau o'i ddisgyblion, 2 “Ewch i'r pentref acw sydd o'ch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i ebol wedi'i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o'r blaen. Dewch â'r ebol i mi, ac 3 os bydd rhywun yn gofyn, ‘Beth dych chi'n ei wneud?’ dwedwch, ‘Mae'r meistr ei angen; bydd yn ei anfon yn ôl wedyn.’” 4 Felly i ffwrdd â nhw, a dyna lle roedd yr ebol, allan yn y stryd wedi'i rwymo wrth ddrws. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd 5 dyma rhyw bobl oedd yn sefyll yno yn dweud, “Hei! Beth dych chi'n ei wneud?” 6 Dyma nhw'n dweud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw, a dyma'r bobl yn gadael iddyn nhw fynd. 7 Pan ddaethon nhw â'r ebol at Iesu dyma nhw'n taflu'u cotiau drosto, a dyma Iesu'n eistedd ar ei gefn. 8 Roedd llawer o bobl yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd o'i flaen, neu ganghennau deiliog oedden nhw wedi'u torri o'r caeau. 9 Roedd pobl y tu blaen a'r tu ôl iddo yn gweiddi,“Hosanna! Clod i ti!”
“Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!”Croes
10 “Mae teyrnas ein cyndad Dafydd wedi'i bendithio!”
“Hosanna! Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
11 Dyma Iesu'n mynd i mewn i Jerwsalem ac i'r deml. Edrychodd o gwmpas ar bopeth oedd yno cyn gadael. Gan ei bod yn mynd yn hwyr, aeth yn ôl i Bethania gyda'r deuddeg disgybl.(Mathew 21:18-19)
12 Y diwrnod wedyn, wrth adael Bethania, roedd Iesu eisiau bwyd. 13 Gwelodd goeden ffigys ddeiliog yn y pellter, ac aeth i edrych rhag ofn bod ffrwyth arni. Ond doedd dim byd ond dail, am ei bod hi ddim yr adeg iawn o'r flwyddyn i'r ffigys fod yn barod. 14 “Fydd neb yn bwyta dy ffrwyth di byth eto!” meddai Iesu. Clywodd y disgyblion beth ddwedodd e.(Mathew 21:12-17; Luc 19:45-48; Ioan 2:13-22)
15 Pan gyrhaeddodd Iesu Jerwsalem, aeth i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddau'r rhai oedd yn cyfnewid arian a'u troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. 16 Yna gwrthododd adael i unrhyw un gario pethau i'w gwerthu i mewn i'r deml. 17 Yna dechreuodd eu dysgu, “Onid ydy'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw
yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.’?
Ond dych chi wedi troi'r lle yn ‘guddfan i ladron’!”Croes 18 Clywodd y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith beth ddwedodd e, a mynd ati i geisio dod o hyd i ffordd i'w ladd. Roedden nhw'n ei weld yn fygythiad i'w hawdurdod, am fod y bobl wedi'u syfrdanu gan ei eiriau. 19 Pan ddechreuodd hi nosi, dyma Iesu a'i ddisgyblion yn gadael y ddinas.(Mathew 21:20-22)
20 Y bore wedyn roedden nhw'n pasio'r goeden ffigys eto. Roedd hi wedi gwywo'n llwyr! 21 Cofiodd Pedr eiriau Iesu'r diwrnod cynt, ac meddai, “Rabbi, edrych! Mae'r goeden wnest ti ei melltithio wedi gwywo!” 22 “Rhaid i chi gredu yn Nuw,” meddai Iesu. 23 “Credwch chi fi, does ond rhaid i chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun i'r môr’ – heb amau o gwbl, dim ond credu y gwnaiff ddigwydd – a bydd yn digwydd! 24 Felly dw i'n dweud wrthoch chi, cewch beth bynnag dych chi'n gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu y byddwch yn ei dderbyn. 25 Ond cyn gweddïo'n gyhoeddus, rhaid i chi faddau i unrhyw un sydd wedi gwneud rhywbeth yn eich erbyn. Wedyn bydd eich Tad yn y nefoedd yn maddau'ch pechodau chi.” Ref ’(Mathew 21:23-27; Luc 20:1-8)
27 Dyma nhw'n cyrraedd yn ôl i Jerwsalem. Pan oedd Iesu'n cerdded o gwmpas y deml, dyma'r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, 28 a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?” 29 Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Atebwch chi hwn, ac ateba i'ch cwestiwn chi. 30 Dwedwch wrtho i – Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?” 31 Wrth drafod y peth gyda'i gilydd, dyma nhw'n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ 32 Ond allwn ni byth ddweud ‘Na’ …” (Roedd ganddyn nhw ofn y bobl, am fod pawb yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.) 33 Felly dyma nhw'n gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity