|
|
(Mathew 12:9-14; Luc 6:6-11)
1 Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth. 2 Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo! 3 Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.” 4 Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb. 5 Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr. 6 Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.(Mathew 10:1-4; Luc 6:12-16)
13 Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi'u dewis, a dyma nhw'n mynd ato. 14 Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Ref Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da, ’15 a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl. 16 Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr); 17 Iago fab Sebedeus a'i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu'n eu galw nhw); 18 Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot 19 a Jwdas Iscariot (wnaeth ei fradychu).(Mathew 12:22-32; Luc 11:14-23; 12:10)
20 Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed. 21 Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw. 22 Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi'i feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!” 23 Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan? 24 Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll! 25 Neu os ydy teulu'n ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu. 26 A'r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a'i deyrnas wedi'i rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno! 27 Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. 28 Credwch chi fi – mae maddeuant i'w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd, 29 ond does dim maddeuant i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae'r person hwnnw'n euog o bechod sy'n aros am byth.” 30 (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.)(Mathew 12:46-50; Luc 8:19-21)
31 Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i'w alw. 32 Roedd tyrfa yn eistedd o'i gwmpas, a dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.” 33 Atebodd, “Pwy ydy fy mam a'm brodyr i?” 34 “Dyma fy mam a'm brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o'i gwmpas. 35 “Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity