|
|
(Mathew 15:1-20)
1 Dyma'r Phariseaid a rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith oedd wedi dod o Jerwsalem yn casglu o gwmpas Iesu. 2 Roedden nhw wedi sylwi fod rhai o ddisgyblion Iesu ddim yn golchi eu dwylo yn y ffordd iawn cyn bwyta. 3 (Dydy'r Phariseaid a phobl Jwda byth yn bwyta heb fynd drwy ddefod golchi dwylo fel mae'r traddodiad crefyddol yn gofyn. 4 Wnân nhw ddim bwyta dim wedi'i brynu yn y farchnad chwaith heb fynd drwy ddefod golchi. Ac mae ganddyn nhw lawer o reolau eraill tebyg, fel defod golchi cwpanau, jygiau a llestri copr o bob math.) 5 Gofynnodd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith i Iesu, “Pam dydy dy ddisgyblion di ddim yn cadw'r traddodiad. Maen nhw'n bwyta heb olchi eu dwylo!” 6 Atebodd Iesu, “Roedd Eseia yn llygad ei le pan broffwydodd amdanoch chi. Dych chi mor ddauwynebog! “Dyma ddwedodd e:‘Mae'r bobl yma'n dweud pethau gwych amdana i,
ond mae eu calonnau yn bell oddi wrtho i.
7 Mae eu haddoliad yn ddiystyr;
mân-reolau dynol ydy'r cwbl maen nhw'n ei ddysgu.’Croes
8 “Dych chi'n diystyru beth mae Duw wedi'i orchymyn, ac yn lle hynny yn glynu wrth eich traddodiad crefyddol.” 9 “Ie, gwrthod beth mae Duw yn ei ddweud er mwyn cadw'ch traddodiadau eich hunain!” meddai wrthyn nhw. 10 “Er enghraifft, dwedodd Moses, ‘Gofala am dy dad a dy fam,’ a, ‘Rhaid i bwy bynnag sy'n sarhau ei dad neu ei fam gael ei ladd.’Croes 11 Ond dych chi'n dweud ei bod yn iawn dweud wrth rieni mewn oed: ‘Alla i ddim gofalu amdanoch chi. Mae beth o'n i'n mynd i'w roi i chi wedi'i gyflwyno'n rhodd i Dduw.’ 12 Wedyn wrth gwrs, does dim rhaid i chi wneud dim i helpu'ch rhieni. 13 Dych chi'n defnyddio'ch traddodiad i osgoi gwneud beth mae Duw'n ei ddweud. Ac mae digon o enghreifftiau eraill o'r un math o beth y gallwn i sôn amdanyn nhw.” 14 Dyma Iesu'n galw'r dyrfa ato eto, a dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch arna i, dw i am i chi i gyd ddeall hyn. 15 Dydy beth dych chi'n ei fwyta ddim yn eich gwneud chi'n ‛aflan‛. Beth sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛ – pethau dych chi'n eu dweud a'u gwneud.” Ref ’ 17 Pan aeth i mewn i'r tŷ ar ôl gadael y dyrfa, gofynnodd ei ddisgyblion iddo esbonio'r peth iddyn nhw. 18 “Ydych chi wir mor ddwl?” meddai. “Ydych chi ddim yn gweld mai dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛? 19 Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.) 20 “Yr hyn sy'n dod allan o'r galon sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛,” meddai. 21 “O'r tu mewn i chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel anfoesoldeb rhywiol, dwyn, llofruddio, 22 godinebu, bod yn farus, bod yn faleisus, twyllo, penrhyddid, bod yn hunanol, hel straeon cas, bod yn haerllug ac ymddwyn yn ffôl. 23 Y pethau drwg yma sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”(Mathew 15:21-28)
24 Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd. 25 Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi'i meddiannu gan ysbryd drwg. 26 Gwraig wedi'i geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch. 27 Dwedodd Iesu wrthi, “Rhaid i'r plant gael bwyta beth maen nhw eisiau gyntaf. Dydy hi ddim yn iawn i bobl daflu bwyd y plant i'r cŵn.” Ref 28 “Digon gwir, Arglwydd,” meddai'r wraig, “ond mae hyd yn oed y cŵn dan y bwrdd yn cael bwyta briwsion y plant.” 29 “Am i ti roi ateb mor dda,” meddai Iesu wrthi, “cei fynd adre; mae'r cythraul wedi gadael dy ferch.” 30 Felly aeth adre, a dyna lle roedd ei merch yn gorwedd ar ei gwely, a'r cythraul wedi'i gadael.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity