|
|
(Marc 2:23-28; Luc 6:1-5)
1 Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta. Ref Croes 2 Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!” 3 Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu? 4 Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi'i gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw.Croes Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl.Croes 5 Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth drwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog. 6 Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na'r deml yma! 7 Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’Croes fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog. 8 Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”(Marc 3:1-6; Luc 6:6-11)
9 Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw, 10 ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?” 11 Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan? 12 Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.” 13 Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall. 14 Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.18 “Dyma'r un dw i wedi'i ddewis yn was i mi,
yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono;
Rhof fy Ysbryd Glân iddo,
a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.
19 Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun,
a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;
20 Fydd e ddim yn torri brwynen wan,
nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu.
Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol.
21 Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.”Croes
(Marc 3:20-30; Luc 11:14-23; 12:10)
22 Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn. 23 Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?” 24 Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.” 25 Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd drwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. 26 Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi'i rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? 27 Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi. 28 Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. 29 “Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn. 30 “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i. 31 Felly gwrandwch – mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd. 32 Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.(Luc 6:43-45)
33 “Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. 34 Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw. 35 Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi'i storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi'i storio ynddyn nhw. 36 Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll ddwedon nhw. 37 Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”(Marc 8:11,12; Luc 11:29-32)
38 Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.” 39 Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. 40 Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear.Croes 41 Bydd pobl Ninefe Ref hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr!Croes 42 A bydd Brenhines Seba Ref yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr!Croes(Luc 11:24-26)
43 “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle, 44 mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi'i lanhau a'i dacluso drwyddo. 45 Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”(Marc 3:31-35; Luc 8:19-21)
46 Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e. 47 Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.” Ref 48 Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?” 49 A chan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam a'm brodyr i. 50 Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity