|
|
(Marc 9:33-37,42-48; Luc 9:46-48; 17:1-2)
1 Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?” 2 Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau, 3 ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. 4 Felly, pwy bynnag sy'n gweld ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol. 5 Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi. 6 Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi'i rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr. 7 “Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio! 8 Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol! 9 Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.(Luc 15:3-7)
10 “Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd. Ref ’ 12 “Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll? 13 Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll! 14 Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.(Luc 17:3)
15 “Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad ag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch. 16 Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, am fod ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’Croes 17 Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, yna dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain! 18 “Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi'u rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi'u caniatáu yn y nefoedd. 19 “A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, bydd fy Nhad yn y nefoedd yn ei roi i chi. 20 Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity