|
|
(Marc 12:38-40; Luc 11:37-52; 20:45-47)
1 Yna dyma Iesu'n annerch y dyrfa a'i ddisgyblion: 2 “Yr arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid sy'n dehongli Cyfraith Moses, Ref 3 ac wrth gwrs ‘Dylech chi wrando arnyn nhw a gwneud popeth maen nhw'n ei ddweud.’ Ond peidiwch dilyn eu hesiampl nhw – dŷn nhw ddim yn byw beth maen nhw'n ei bregethu. 4 Maen nhw'n gosod beichiau trwm eu rheolau crefyddol ar ysgwyddau pobl, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich. 5 “Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennauCroes yn amlwg, a'r taselau hir ar eu clogynCroes yn dangos mor dduwiol ydyn nhw. 6 Maen nhw wrth eu bodd yn cael y seddi gorau mewn gwleddoedd a'r seddi pwysica yn y synagogau, 7 a chael pobl yn symud o'u ffordd a'u cyfarch yn barchus yn sgwâr y farchnad, a'u galw yn ‛Rabbi‛. 8 “Peidiwch chi â gadael i neb eich galw'n ‛Rabbi‛. Dim ond un athro sydd gynnoch chi, a dych chi i gyd yn gydradd, fel brodyr a chwiorydd i'ch gilydd. 9 A pheidiwch rhoi'r teitl anrhydedd ‛Y tad‛ i neb. Duw yn y nefoedd ydy'ch Tad chi. 10 A pheidiwch gadael i neb eich galw'n ‛meistr‛ chwaith. Un meistr sydd gynnoch chi, a'r Meseia ydy hwnnw. 11 Rhaid i'r arweinydd fod yn was. 12 Bydd pwy bynnag sy'n gwthio ei hun i'r top yn cael ei dynnu i lawr, a phwy bynnag sy'n gwasanaethu eraill yn cael dyrchafiad. 13 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n cau drws yn wyneb pobl, a'u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi'ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad. Ref ’ 15 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n barod i deithio dros fôr a thir i gael un person i gredu yr un fath â chi. Wrth wneud hynny dych chi'n ei droi'n blentyn uffern – ddwywaith gwaeth na chi'ch hunain! 16 “Gwae chi! Arweinwyr dall ydych chi! Er enghraifft, dych chi'n dweud: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi trysor y deml, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’ 17 Y ffyliaid dall! Pa un ydy'r pwysica – y trysor, neu'r deml sy'n gwneud y trysor yn gysegredig? 18 “Dyma enghraifft arall: ‘Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, dydy'r llw ddim yn ddilys; ond os ydy rhywun yn enwi'r offrwm ar yr allor, mae wedi'i rwymo gan ei lw.’ 19 Dych chi mor ddall! Pa un ydy'r pwysica – yr offrwm, neu'r allor sy'n gwneud yr offrwm yn gysegredig? 20 Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd! 21 Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml. 22 Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni.Croes 23 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed perlysiau fel mintys, anis a chwmin! Ond dych chi'n talu dim sylw i faterion pwysica'r Gyfraith – byw'n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw. Dylech chi wneud y pethau pwysica yma heb ddiystyru'r pethau eraill. 24 Arweinwyr dall ydych chi! Dych chi'n hidlo dŵr rhag i chi lyncu gwybedyn, ond yna'n llyncu camel! 25 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n glanhau'r tu allan i'r gwpan neu'r ddysgl, ond cawsoch chi'r bwyd a'r diod oedd ynddyn nhw drwy drais a hunanoldeb. 26 Y Pharisead dall! Glanha'r tu mewn i'r gwpan neu'r ddysgl gyntaf; wedyn bydd y tu allan yn lân hefyd. 27 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi fel beddau wedi'u gwyngalchu. Mae'r cwbl yn edrych yn ddel iawn ar y tu allan, ond y tu mewn maen nhw'n llawn o esgyrn pobl wedi marw a phethau afiach eraill. 28 Dych chi'r un fath! Ar y tu allan dych chi'n edrych yn bobl dda a duwiol, ond y tu mewn dych chi'n llawn rhagrith a drygioni! 29 “Gwae chi'r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi'n codi cofgolofnau i anrhydeddu'r proffwydi ac yn gofalu am feddau pobl dduwiol y gorffennol. 30 Dych chi'n dweud, ‘Petaen ni'n byw bryd hynny, fydden ni ddim wedi lladd y proffwydi, fel gwnaeth ein cyndeidiau.’ 31 Felly, dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi. 32 Iawn! Cariwch ymlaen! Waeth i chi orffen beth ddechreuodd eich cyndeidiau! 33 “Dych chi fel nythaid o nadroedd gwenwynig! Sut allwch chi osgoi cael eich dedfrydu i uffern? 34 Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall. 35 Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi'u lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, Ref gafodd ei lofruddio gynnoch chi rhwng y cysegr a'r allor yn y deml. 36 Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn cael ei chosbi am hyn i gyd.(Luc 13:34-35)
37 “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb! 38 Edrych! Mae Duw wedi gadael dy deml – mae'n wag! 39 Dw i'n dweud hyn – fyddi di ddim yn fy ngweld i eto nes byddi'n dweud, ‘Mae'r un sy'n dod i gynrychioli'r Arglwydd wedi'i fendithio'n fawr!’Croes”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity