|
|
(Marc 1:12,13; Luc 4:1-13)
1 Yn syth wedyn dyma'r Ysbryd yn arwain Iesu allan i'r anialwch i gael ei demtio gan y diafol.Croes 2 Ar ôl bwyta dim byd Ref am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. 3 Dyna pryd y daeth y diafol i'w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i'r cerrig yma droi'n fara,” meddai. 4 “Na!”, atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy'r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”Croes 5 Wedyn dyma'r diafol yn mynd â Iesu i'r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. 6 “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o'r fan yma. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud:‘Bydd Duw yn gorchymyn i'w angylion
dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.’”Croes
7 Atebodd Iesu, “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi'r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’Croes” 8 Yna dyma'r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a'u cyfoeth iddo. 9 A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di'r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.” 10 Ond dyma Iesu'n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola'r Arglwydd dy Dduw, a'i wasanaethu e'n unig.’Croes” 11 Yna dyma'r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.(Marc 1:14,15; Luc 4:14,15)
12 Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. 13 Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. 14 Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn dod yn wir:15 “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,
a'r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen,
hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
16 Mae'r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch
wedi gweld golau llachar;
ac mae golau wedi gwawrio
ar y rhai sy'n byw dan gysgod marwolaeth.”Croes
17 Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”(Marc 1:16-20; Luc 5:1-11)
18 Un tro roedd Iesu'n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alw'n Pedr, a'i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi'n taflu rhwyd i'r llyn. 19 Dyma Iesu'n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi'n bysgotwyr sy'n dal pobl yn lle pysgod.” 20 Heb oedi, dyma'r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. 21 Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu'n eu galw nhw hefyd, 22 a dyma nhw'n gadael y cwch a'u tad a dechrau dilyn Iesu.(Luc 6:17-19)
23 Roedd Iesu'n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu'r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi'r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl.Croes 24 Daeth Iesu'n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi'u parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. 25 Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Ref Jerwsalem a Jwdea, ac o'r ochr draw i afon Iorddonen.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity