|
|
(Luc 11:2-4)
5 “A pheidiwch gweddïo fel y rhai sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Maen nhw wrth eu boddau pan mae pobl yn edrych arnyn nhw yn codi i weddïo yn y synagogau neu ar strydoedd prysur. Credwch chi fi, dyna'r unig wobr gân nhw! 6 Pan fyddi di'n gweddïo, dos i ystafell o'r golwg, cau y drws, a gweddïo ar dy Dad sydd yno gyda ti er dy fod ddim yn ei weld. Wedyn bydd dy Dad, sy'n gweld pob cyfrinach, yn rhoi dy wobr i ti. 7 A phan fyddwch chi'n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae'r paganiaid yn gwneud. Maen nhw'n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir. 8 Peidiwch chi â bod fel yna. Mae'ch Tad chi'n gwybod yn union beth sydd ei angen arnoch chi cyn i chi ddweud gair. 9 “Dyma sut dylech chi weddïo:‘Ein Tad sydd yn y nefoedd,
dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.
10 Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu,
ac i'r cwbl sy'n dda yn dy olwg di
ddigwydd yma ar y ddaear fel mae'n digwydd yn y nefoedd.
11 Rho i ni ddigon o fwyd i'n cadw ni'n fyw am heddiw.
12 Maddau i ni am bob dyled i ti
yn union fel dŷn ni'n maddau
i'r rhai sydd mewn dyled i ni.
13 Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni'n cael ein profi,
ac achub ni o afael y drwg.’ Ref
’’’’ 14 “Os gwnewch chi faddau i bobl pan maen nhw wedi gwneud cam â chi, bydd eich Tad nefol yn maddau i chi hefyd. 15 Ond os na wnewch chi faddau i'r bobl sydd wedi gwneud cam â chi, fydd eich Tad ddim yn maddau'ch pechodau chi.(Luc 12:33,34)
19 “Peidiwch casglu trysorau i chi'ch hunain yn y byd yma. Mae gwyfyn a rhwd yn gallu eu difetha, ac mae lladron yn gallu dod â'u dwyn. 20 Casglwch drysorau i chi'ch hunain yn y nefoedd – all gwyfyn a rhwd ddifetha dim byd yno, a does dim lladron yno i ddwyn dim byd. 21 Lle bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.(Luc 11:34-36; 16:13)
22 “Y llygad ydy lamp y corff. Felly, mae llygad iach (sef bod yn hael) yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. 23 Ond mae llygad sâl (sef bod yn hunanol) yn gwneud dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly os ydy dy oleuni di yn dywyllwch, mae'n dywyll go iawn arnat ti! 24 “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac i arian ar yr un pryd.(Luc 12:22-31)
25 “Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? 26 Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw. 27 Allwch chi ddim hyd yn oed gwneud eich bywyd eiliad yn hirach Ref drwy boeni! 28 “A pham poeni am ddillad? Meddyliwch sut mae blodau gwyllt yn tyfu. Dydy blodau ddim yn gweithio nac yn nyddu. 29 Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.Croes 30 Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi? 31 Peidiwch poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ 32 Y paganiaid sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. 33 Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. 34 Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity