NEHEMEIA 2
Nehemeia'n gofyn am gael mynd i Jerwsalem
1 Yna yn mis Nisan Ref yn ugeinfed flwyddyn teyrnasiad Artaxerxes, rôn i'n gweini ar y brenin fel arfer, a mynd â gwin iddo. Ond dyma'r tro cyntaf i mi erioed edrych yn drist o'i flaen.
2 A dyma'r brenin yn gofyn i mi, “Pam wyt ti'n edrych mor ddiflas? Ti ddim yn sâl. Ond mae'n amlwg fod rhywbeth yn dy boeni di.”
Pan ddwedodd hynny, roedd gen i ofn.
3 A dyma fi'n ei ateb, “O frenin, boed i ti fyw am byth! Sut alla i beidio edrych yn drist pan mae'r ddinas ble mae fy hynafiaid wedi'u claddu yn adfeilion, a'i giatiau wedi'u llosgi?”
4 A dyma'r brenin yn gofyn, “Beth wyt ti eisiau gen i?” Dyma fi'n gweddïo'n dawel ar Dduw y nefoedd,
5 ac yna dweud wrth y brenin, “Os ydy'r brenin yn gweld yn dda, ac os ydy'ch gwas wedi'ch plesio chi, plîs anfonwch fi'n ôl i Jwda lle mae fy hynafiaid wedi'u claddu, i adeiladu'r ddinas eto.”
6 Yna dyma'r brenin, gyda'i wraig yn eistedd wrth ei ymyl, yn gofyn, “Am faint fyddet ti i ffwrdd, a pryd fyddet ti yn ôl?” Gan fod y brenin yn barod i adael i mi fynd, dyma fi'n rhoi dyddiad iddo.
7 A dyma fi'n dweud wrtho, “Os ydy'ch mawrhydi yn gweld yn dda, wnewch chi roi dogfennau i mi eu dangos i lywodraethwyr Traws-Ewffrates, i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd Jwda'n saff.
8 Hefyd, llythyr i Asaff, sy'n gofalu am goedwig y brenin, iddo roi coed i mi – coed i wneud trawstiau ar gyfer giatiau'r gaer sydd wrth ymyl y deml, waliau'r ddinas, a'r tŷ fydda i'n aros ynddo.” A dyma'r brenin yn rhoi caniatâd i mi, achos roedd hi'n amlwg fod Duw gyda mi.
Nehemeia am ailadeiladu'r waliau
9 Dyma fi'n mynd at lywodraethwyr Traws-Ewffrates, a chyflwyno'r dogfennau gefais gan y brenin iddyn nhw. Roedd y brenin wedi rhoi swyddogion o'r fyddin a marchogion i fynd gyda mi.
10 Ond doedd Sanbalat Ref o Choron, a Tobeia Ref (y swyddog o Ammon), ddim yn hapus o gwbl fod rhywun wedi cael ei anfon i helpu pobl Israel.
11 Dri diwrnod ar ôl i mi gyrraedd Jerwsalem,
12 dyma fi'n codi ganol nos a mynd allan gyda'r ychydig ddynion oedd gen i. Yr unig anifail oedd gyda ni oedd yr un roeddwn i'n reidio ar ei gefn. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb beth roedd Duw wedi rhoi awydd yn fy nghalon i i'w wneud yn Jerwsalem.
13 Dyma fi'n mynd allan drwy Giât y Dyffryn ganol nos, a throi i gyfeiriad Ffynnon y Ddraig a Giât y Sbwriel i edrych ar gyflwr y waliau oedd wedi'u chwalu a'r giatiau oedd wedi'u llosgi.
14 Es ymlaen at Giât y Ffynnon a Pwll y Brenin, ond wedyn doedd dim posib i'r anifail fynd ddim pellach.
15 Tra oedd hi'n dal yn dywyll dyma fi'n mynd i lawr i Ddyffryn Cidron ac edrych ar gyflwr y waliau o'r fan honno. Wedyn trois yn ôl, a mynd yn ôl i'r ddinas drwy Giât y Dyffryn.
16 Doedd swyddogion y ddinas ddim yn gwybod lle roeddwn i wedi bod, na beth roeddwn i wedi bod yn ei wneud. Doeddwn i ddim wedi dweud wrth neb o'r Iddewon hyd yn hyn – yr offeiriaid, y bobl gyfoethog na'r swyddogion, nac unrhyw un arall o'r gweithwyr.
17 Yna dyma fi'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n gwybod mor anodd ydy pethau yma: mae Jerwsalem yn adfeilion a'i giatiau wedi'u llosgi. Dewch! Gadewch i ni ailadeiladu wal Jerwsalem, a dod â'r sefyllfa warthus yma i ben.”
18 Dwedais yr hanes wrthyn nhw, fel roedd Duw wedi bod gyda mi, a beth roedd y brenin wedi'i ddweud wrtho i. A dyma nhw'n ymateb, “Gadewch i ni ddechrau adeiladu ar unwaith!” A dyma nhw'n annog ei gilydd i fynd ati i wneud y gwaith pwysig yma.
19 Ond pan glywodd Sanbalat o Choron, Tobeia, y swyddog o Ammon, a Geshem yr Arab Ref am ein cynlluniau, dyma nhw'n dechrau gwneud hwyl am ein pennau a'n henllibio ni. “Beth dych chi'n wneud? Ydych chi'n meddwl gwrthryfela yn erbyn y brenin?”
20 A dyma fi'n ateb, “Gyda help Duw byddwn ni'n llwyddo. Ei weision e ydyn ni, a dŷn ni'n mynd i ddechrau ailadeiladu'r ddinas yma. Does yna ddim lle i chi yma, a dych chi erioed wedi bod â hawl i Jerwsalem.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity