NEHEMEIA 6
Cynllwyn yn erbyn Nehemeia
1 Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a'r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu'r wal a chau'r bylchau i gyd (er fod drysau'r giatiau ddim wedi'u gosod yn eu lle bryd hynny).
2 A dyma fi'n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o'r pentrefi ar wastatir Ono. Ref Ond roedden nhw'n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi.
3 Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.”
4 Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro.
5 Yna'r pumed tro dyma Sanbalat yn anfon ei was gyda llythyr agored yn ei law.
6 Dyma oedd y llythyr yn ei ddweud:
“Mae yna si yn mynd o gwmpas (ac mae Geshem wedi cadarnhau hyn), dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam dych chi'n adeiladu'r waliau. A'r sôn ydy dy fod ti am fod yn frenin arnyn nhw.
7 Maen nhw'n dweud dy fod wedi penodi proffwydi yn Jerwsalem i gyhoeddi, ‘Mae brenin yn Jwda!’
Bydd brenin Persia yn dod i glywed am y sibrydion yma. Felly tyrd! Gad i ni drafod y mater.”
8 Dyma fi'n anfon neges yn ôl ato yn dweud, “Dydy'r pethau rwyt ti'n ddweud amdanon ni ddim yn wir. Ffrwyth dy ddychymyg di ydy'r cwbl!”
9 (Ceisio'n dychryn ni roedden nhw, gan feddwl y bydden ni'n llaesu dwylo ac y byddai'r gwaith ddim yn cael ei orffen. Ond roedd hyn wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol fyth.)
10 Yna es i weld Shemaia fab Delaia ac ŵyr Mehetafél, oedd ddim yn gallu gadael ei dŷ. A dyma fe'n dweud, “Gad i ni gyfarfod yn y cysegr – cysegr Duw yn y Deml, a chloi ein hunain i mewn. Maen nhw'n dod i dy ladd di; dod i dy ladd di yn y nos.”
11 Ond dyma fi'n ateb, “Ydy'n iawn i ddyn fel fi redeg i ffwrdd? A sut all dyn cyffredin fel fi fynd i mewn i'r cysegr a chael byw?Croes Na, wna i ddim mynd.”
12 Roedd hi'n amlwg fod Duw ddim yn siarad drwyddo – Tobeia a Sanbalat oedd wedi'i dalu i roi'r broffwydoliaeth yna.
13 Roedd wedi cael ei dalu i'm dychryn i, er mwyn i mi bechu drwy wneud beth roedd e'n ei awgrymu. Byddai hynny wedyn wedi arwain at sgandal a rhoi enw drwg i mi.
14 O Dduw, cofia beth mae Tobeia a Sanbalat wedi'i wneud – a hefyd Noadeia y broffwydes, a'r proffwydi eraill sy'n trio fy nychryn i.
Gorffen adeiladu'r wal
15 Cafodd y wal ei gorffen ar y pumed ar hugain o fis Elwl Ref – dim ond pum deg dau diwrnod gymrodd y gwaith!
16 Roedd ein gelynion, a'r gwledydd o'n cwmpas, wedi dychryn a digalonni pan glywon nhw fod y gwaith wedi'i orffen. Allen nhw ddim gwadu fod Duw wedi'n helpu ni i wneud hyn.
17 Drwy'r cyfnod yma roedd pobl bwysig Jwda a Tobeia wedi bod yn ysgrifennu'n ôl ac ymlaen at ei gilydd.
18 Roedd yna lawer o bobl yn Jwda wedi addo cefnogi Tobeia am ddau reswm: roedd yn fab-yng-nghyfraith i Shechaneia fab Arach, ac roedd ei fab Iehochanan wedi priodi merch Meshwlam fab Berecheia.
19 Roedden nhw'n dweud wrtho i am yr holl bethau da roedd e'n eu gwneud, ac yna'n dweud wrtho fe beth ddwedais i. Wedyn roedd Tobeia'n anfon llythyrau bygythiol ata i.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity