NEHEMEIA 7
Trefniadau diogelwch Jerwsalem
1 Roedd y wal wedi'i gorffen, drysau'r giatiau wedi'u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi'u penodi.
2 A dyma fi'n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia'n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na'r rhan fwya o bobl.
3 Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau'r ddinas ddim bod ar agor pan mae'r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”
Rhestr o'r bobl ddaeth yn ôl o Babilon
(Esra 2:1-70)
4 Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi'u hadeiladu ynddi bryd hynny.
5 A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw'r arweinwyr a'r swyddogion a'r bobl gyffredin at ei gilydd, a'u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.
Dyma fi'n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi'i gofnodi:
6 Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i'r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw'n arfer byw.
7 Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana.
Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:
- 8 Teulu Parosh: 2,172
- 9 Teulu Sheffateia: 372
- 10 Teulu Arach: 652
- 11 Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818
- 12 Teulu Elam: 1,254
- 13 Teulu Sattw: 845
- 14 Teulu Saccai: 760
- 15 Teulu Binnŵi: 648
- 16 Teulu Bebai: 628
- 17 Teulu Asgad: 1,322
- 18 Teulu Adonicam: 667
- 19 Teulu Bigfai: 2,067
- 20 Teulu Adin: 655
- 21 Teulu Ater (sef disgynyddion Chisceia): 98
- 22 Teulu Chashŵm: 328
- 23 Teulu Betsai: 324
- 24 Teulu Charîff: 112
- 25 Teulu Gibeon: 95
- 26 Dynion Bethlehem a Netoffa: 188
- 27 Dynion Anathoth: 128
- 28 Dynion Beth-asmafeth: 42
- 29 Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743
- 30 Dynion Rama a Geba: 621
- 31 Dynion Michmas: 122
- 32 Dynion Bethel ac Ai: 123
- 33 Pobl y Nebo arall: 52
- 34 Pobl yr Elam arall: 1,254
- 35 Pobl Charîm: 320
- 36 Pobl Jericho: 345
- 37 Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721
- 38 Pobl Senaâ: 3,930
39 Yr offeiriaid:
- Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973
- 40 Teulu Immer: 1,052
- 41 Teulu Pashchwr: 1,247
- 42 Teulu Charîm: 1,017
43 Y Lefiaid:
- Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74
44 Y cantorion:
45 Gofalwyr y giatiau:
- Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138
46 Gweision y deml:
- Teulu Sicha
- Teulu Chaswffa
- Teulu Tabbaoth
- 47 Teulu Ceros
- Teulu Sïa
- Teulu Padon
- 48 Teulu Lebana
- Teulu Hagaba
- Teulu Shalmai
- 49 Teulu Chanan
- Teulu Gidel
- Teulu Gachâr
- 50 Teulu Reaia
- Teulu Resin
- Teulu Necoda
- 51 Teulu Gassam
- Teulu Wssa
- Teulu Paseach
- 52 Teulu Besai
- Teulu Mewnîm
- Teulu Neffwshesîm
- 53 Teulu Bacbwc
- Teulu Chacwffa
- Teulu Charchwr
- 54 Teulu Batslith
- Teulu Mechida
- Teulu Charsha
- 55 Teulu Barcos
- Teulu Sisera
- Teulu Temach
- 56 Teulu Netsïach
- Teulu Chatiffa.
57 Teuluoedd gweision Solomon:
- Teulu Sotai
- Teulu Soffereth
- Teulu Perida
- 58 Teulu Jala
- Teulu Darcon
- Teulu Gidel
- 59 Teulu Sheffateia
- Teulu Chattil
- Teulu Pochereth-hatsbaîm
- Teulu Amon.
60 Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.
61 Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a'u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):
- 62 Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652
63 Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).
64 Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o'u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid.
65 Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta'r bwyd oedd wedi'i gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio'r Wrim a'r Thwmim.Croes
66 Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360,
67 (heb gyfri'r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd).
68-69 Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.
70 Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.
- Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, Ref 50 powlen, a 530 o wisgoedd i'r offeiriaid.
- 71 Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur Ref a 1,300 cilogram o arian. Ref
- 72 Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram Ref o arian, a 67 o wisgoedd i'r offeiriaid.
73 Felly dyma'r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i'w trefi hwythau hefyd.
Y Gyfraith yn cael ei darllen, a'r bobl yn ymateb
Pan ddaeth y seithfed mis,
Ref aeth pobl Israel o'u trefi
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity