|
|
1 Mae'r un sy'n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg
wedi ei fendithio'n fawr;
yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,
nac yn eistedd gyda'r rhai
sy'n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;
yn gwneud beth mae'r
ARGLWYDD eisiau,ac yn myfyrio ar y pethau mae'n eu dysgu Ref ddydd a nos.
3 Bydd fel coeden wedi ei phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,
yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,
a'i dail byth yn gwywo.Croes
Beth bynnag mae'n ei wneud, bydd yn llwyddo.
4 Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!
Byddan nhw fel us
yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.
5 Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.
Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll
gyda'r dyrfa o rai cyfiawn.
ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy'n ei ddilyn,ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity