|
|
Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i?
2 Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd —
gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!
3 Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun;
a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r
ARGLWYDD.4 Mae'r un drwg mor falch, yn swancio
ac yn dweud wrth ddirmygu'r
ARGLWYDD:“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;
Dydy Duw ddim yn bodoli!”
5 Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser.
Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di;
ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.
6 Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff.
Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”
7 Mae e mor gegog! — yn llawn melltith a thwyll a gormes;
a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!
8 Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;
mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog —
unrhyw un sy'n ddigon anffodus.
9 Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,
yn barod i ddal y truan a'i gam-drin;
ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.
10 Mae'n plygu i lawr, yn swatio,
ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.
11 Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!
Dydy e'n cymryd dim sylw.
Dydy e byth yn edrych!”
ARGLWYDD!Cod dy law i'w daro, O Dduw!
Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
13 Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duw
a meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri?
ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint.
A byddi'n talu'n ôl!
Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di,
am mai ti sy'n helpu plant amddifad.
Galw fe i gyfrif am y drygioni
roedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld.
ARGLWYDD yn frenin am bytha bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir!
17 Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymu
yn crefu arnat, O
ARGLWYDD.Byddan nhw'n teimlo'n saff
am dy fod ti'n gwrando arnyn nhw.
18 Unwaith eto byddi'n rhoi cyfiawnder
i'r amddifad a'r rhai sy'n cael eu sathru;
byddi'n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity