|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD!Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd!
ARGLWYDD!Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth.
3 Mae wedi maddau dy fethiant i gyd,
ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.
4 Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd,
ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.
5 Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti,
nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto,
yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!
ARGLWYDD bob amser yn deg,ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
7 Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,
a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
ARGLWYDD mor drugarog a charedig;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!Croes
9 Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,
nac yn dal dig am byth.
10 Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,
na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
11 Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,
mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12 Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,
mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13 Fel mae tad yn caru ei blant,
mae'r
ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.14 Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;
mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
15 Mae bywyd dynol fel glaswellt —
mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
16 pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;
ble roedd does dim sôn amdano.
ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchuyn para am byth bythoedd!
Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant —
18 sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,
ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.
ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!
ARGLWYDD, ei angylion! —chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweud
sy'n gwrando ac yn ufudd iddo.
ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd! —chi weision sy'n ei wasanaethu;
ARGLWYDD, bopeth mae wedi ei greu! —ym mhobman ble mae e'n teyrnasu.
Fy enaid, bendithia'r
ARGLWYDD!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity