|
|
Diolchwch i'r
ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2 Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawr
mae'r
ARGLWYDD wedi eu gwneud?Pwy sy'n gallu dweud gymaint mae e'n haeddu ei foli?
3 Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir,
ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser!
ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl;sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw!
5 Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi eu dewis yn llwyddo,
dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw,
a dathlu gyda dy bobl di.
6 Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di;
dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg.
7 Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol.
Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad,
a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch. Ref
8 Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da,
ac er mwyn dangos ei nerth.
9 Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu!
Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.
10 Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu,
a'u rhyddhau o afael y gelyn.
11 Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion,
gan adael dim un ar ôl yn fyw.
12 Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,
ac yn canu mawl iddo!
13 Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!
Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
14 Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,
a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.
15 Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau,
ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.
16 Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses,
ac o Aaron, yr un roedd yr
ARGLWYDD wedi ei gysegru.17 Agorodd y ddaear a llyncu Dathan,
a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram.
18 Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw,
a dyma'r fflamau yn llosgi'r bobl ddrwg hynny.Croes
19 Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai, Ref
a phlygu i addoli delw o fetel!
am ddelw o ychen sy'n bwyta glaswellt!
21 Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw!
Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft —
22 y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham,
a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch. Ref
23 Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw,
dyma Moses, y dyn oedd wedi ei ddewis,
yn sefyll yn y bwlch
ac yn troi ei lid i ffwrdd.
24 Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd,
ac yn gwrthod credu yr addewid roddodd e.
25 Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyll
ac yn gwrthod bod yn ufudd i'r
ARGLWYDD.26 Felly dyma Duw yn mynd ar ei lw
y byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch!
27 Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedd
a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.
28 A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor,Croes
a bwyta aberthau wedi eu cyflwyno i bethau marw!
29 Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig,
a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.
30 Yna dyma Phineas Ref yn ymyrryd,
a dyma'r pla yn stopio.Croes
31 Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw,
a hynny am byth!
32 Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon MeribaCroes
a bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.
33 Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerw
nes iddo ddweud pethau byrbwyll.
34 Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloedd
fel roedd yr
ARGLWYDD wedi gorchymyn.35 Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedd
a dechrau byw yr un fath â nhw.
36 Roedden nhw'n addoli eu duwiau,
a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.
37 Dyma nhw'n aberthu eu meibion
a'u merched i gythreuliaid!
38 Ie, tywallt gwaed plant diniwed
— gwaed eu meibion a'u merched eu hunain! —
a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan.
Roedd y tir wedi ei lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.
39 Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw;
roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon.
ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw!Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun!
41 Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd;
a gadael i'w gelynion eu rheoli.
42 Roedd gelynion yn eu gormesu;
roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr!
43 Er bod Duw wedi eu hachub nhw dro ar ôl tro,
roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes.
Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni.
44 Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybini
ac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help,
45 roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhw
ac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw.
46 Gwnaeth i bawb oedd yn eu dal nhw'n gaeth
fod yn garedig atyn nhw.
ARGLWYDD ein Duw!Casgla ni at ein gilydd o blith y cenhedloedd!
Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd,
ac yn brolio'r cwbl rwyt ti wedi ei wneud.
ARGLWYDD, Duw Israel,o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!
Gadewch i'r bobl i gyd ddweud, “Amen!”
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity