|
|
(Salm 57:7-11; 60:5-12)
Cân. Salm Dafydd.
1 Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw.
Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti!
Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân!
3 Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O
ARGLWYDD, o flaen pawb!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
4 Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd,
a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!
5 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6 Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni
er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
7 Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:
“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,
a mesur dyffryn Swccoth.
a Manasse hefyd.
Effraim ydy fy helmed i,
a Jwda ydy'r deyrnwialen.
9 Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.
Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,
ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”
10 Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?
Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!
Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
12 Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,
achos dydy help dynol yn dda i ddim.
13 Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion —
bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity