|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd.
1 O Dduw, yr un dw i'n ei addoli,
paid diystyru fi.
2 Mae pobl ddrwg a thwyllodrus
yn siarad yn fy erbyn i,
ac yn dweud celwydd amdana i.
3 Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas;
yn ymosod arna i am ddim rheswm.
4 Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo!
Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw.
5 Maen nhw'n talu drwg am dda,
a chasineb am gariad.
6 “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw,
“Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys!
a chael ei ddedfrydu'n euog!
Ystyria ei weddi yn bechod.
8 Paid gadael iddo gael byw'n hir!
Gad i rywun arall gymryd ei waith.
a'i wraig yn weddw!
10 Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref,
i gardota am fwyd.
11 Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd,
ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!
12 Paid gadael i rywun fod yn garedig ato;
na dangos tosturi at ei blant!
13 Dinistria ei ddisgynyddion i gyd;
gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!
ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau,a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.
ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser,ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!
16 Dydy e erioed wedi dangos cariad!
Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus,
a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.
17 Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl
— felly melltithia di fe!
Doedd e byth yn bendithio pobl
— cadw fendith yn bell oddi wrtho!
18 Roedd melltithio iddo fel gwisgo ei ddillad!
Roedd fel dŵr yn ei socian,
neu olew wedi treiddio i'w esgyrn.
19 Gwna felltith yn glogyn iddo'i gwisgo
gyda belt yn ei rhwymo bob amser.”
ARGLWYDD dalu yn ôl i'm cyhuddwyr,y rhai sy'n dweud y pethau drwg yma amdana i.
ARGLWYDD, fy meistr,gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da.
Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi!
22 Dw i'n dlawd ac yn anghenus,
ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul.
23 Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd.
Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd.
24 Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd;
dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel ystyllen.
25 Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl!
Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.
ARGLWYDD, fy Nuw;achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.
27 Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud,
ac mai ti, O
ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i.28 Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi!
Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw,
a bydd dy was yn dathlu!
29 Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio,
byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn.
30 Ond bydda i'n canu mawl i'r
ARGLWYDD;ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr,
31 Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen,
ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity