|
|
Dw i'n diolch i'r
ARGLWYDD o waelod calon,o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr!Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.
3 Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas,
a'i fod e bob amser yn ffyddlon.
4 Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud!
Mae'r
ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!5 Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon;
mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.
6 Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr,
a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.
7 Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn.
Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,
Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.
9 Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd,
ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser.
Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu.
ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth.Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call.
Mae e'n haeddu ei foli am byth!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity