|
|
1 Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft —
pan adawodd teulu Jacob y wlad
lle roedden nhw'n siarad iaith estron —
2 daeth Jwda yn dir cysegredig,
ac Israel yn deyrnas iddo.
3 Dyma'r Môr Coch Ref yn eu gweld nhw'n dod
ac yn symud o'r ffordd.
Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.
4 Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod,
a'r bryniau yn prancio fel ŵyn.
5 Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr?
Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?
6 Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd?
Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?
ARGLWYDD yn dod!Mae Duw Jacob ar ei ffordd!
8 Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr.
Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity