|
|
ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd,
am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.
2 Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud,
“Ble mae eu Duw nhw nawr?”
3 Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd,
ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau!
4 Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aur
wedi eu siapio gan ddwylo dynol.
5 Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;
llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6 clustiau, ond allan nhw ddim clywed;
trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7 dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;
traed, ond allan nhw ddim cerdded;
a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
8 Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,
a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,
yn troi'n debyg iddyn nhw!
ARGLWYDD!Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
10 Chi offeiriaid, credwch yn yr
ARGLWYDD!Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.
ARGLWYDD, credwch yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.
ARGLWYDD yn cofio amdanon ni,a bydd yn ein bendithio ni —
Bydd yn bendithio pobl Israel;
Bydd yn bendithio teulu Aaron;
13 Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r
ARGLWYDD,yn ifanc a hen.
ARGLWYDD roi plant i chi;ie, i chi a'ch plant hefyd!
ARGLWYDD, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear,eich bendithio chi!
ARGLWYDD sydd piau'r nefoedd,ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
17 Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r
ARGLWYDD,maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.
ARGLWYDDo hyn allan, ac am byth!
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity