|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr wythfed. Ref Salm Dafydd.
ARGLWYDD!Does neb ffyddlon ar ôl!
Mae'r rhai sy'n driw wedi diflannu.
2 Mae pawb yn dweud celwydd wrth ei gilydd;
maen nhw'n seboni ond yn ddauwynebog.
ARGLWYDD roi stop ar eu geiriau ffals,a rhoi taw ar bob tafod sy'n brolio!
4 “Gallwn wneud unrhyw beth!” medden nhw.
“Gallwn ddweud beth leiciwn ni!
Dŷn ni'n atebol i neb!”
ARGLWYDD:“Am fod yr anghenus yn dioddef trais,
a'r tlawd yn griddfan mewn poen,
dw i'n mynd i weithredu.
Bydda i'n ei gadw'n saff;
ie, dyna mae'n dyheu amdano.”
ARGLWYDD yn wir.Maen nhw fel arian wedi ei buro mewn ffwrnais bridd,
neu aur wedi ei goethi'n drwyadl.
ARGLWYDD,Byddwn ni'n saff o afael y genhedlaeth ddrwg yma
8 sy'n cerdded o gwmpas yn falch,
a phobl yn canmol y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity