|
|
Cân yr orymdaith. Salm Dafydd.
1 Ro'n i wrth fy modd pan ddwedon nhw wrtho i,
“Gadewch i ni fynd i deml yr
ARGLWYDD.”2 Dyma ni yn sefyll y tu mewn i dy giatiau,
O Jerwsalem!
3 Mae Jerwsalem yn ddinas wedi ei hadeiladu,
i bobl ddod at ei gilydd ynddi.
4 Mae'r llwythau yn mynd ar bererindod iddi,
ie, llwythau'r
ARGLWYDD.Mae'n ddyletswydd ar bobl Israel
i roi diolch i'r
ARGLWYDD.5 Dyma ble mae'r llysoedd barn yn eistedd,
llysoedd barn llywodraeth Dafydd.
6 Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem:
“Boed i'r rhai sy'n dy garu di lwyddo.
7 Boed heddwch y tu mewn i dy waliau,
a diogelwch o fewn dy gaerau.”
8 Er mwyn fy mhobl a'm ffrindiau
dw i'n gweddïo am heddwch i ti.
ARGLWYDD ein Duw,dw i'n gofyn am lwyddiant i ti.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity