|
|
Cân yr orymdaith.
1 Dw i'n edrych i fyny arnat ti
sydd wedi dy orseddu yn y nefoedd.
2 Fel mae llygaid caethweision yn edrych ar law eu meistri,
neu lygaid caethforwyn yn edrych ar law ei meistres,
mae ein llygaid ni yn edrych ar yr
ARGLWYDD ein Duw,ac yn disgwyl iddo ddangos ei ffafr.
3 Bydd yn garedig wrthon ni, O
ARGLWYDD,dangos drugaredd!
Dŷn ni wedi cael ein sarhau hen ddigon.
4 Dŷn ni wedi cael llond bol ar fod
yn destun sbort i bobl hunanfodlon,
a chael ein sarhau gan rai balch.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity