|
|
Cân yr orymdaith.
1 “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith
ers pan oeddwn i'n ifanc,”
gall Israel ddweud.
2 “Maen nhw wedi ymosod arna i lawer gwaith
ers pan oeddwn i'n ifanc,
ond dŷn nhw ddim wedi fy nhrechu i.”
3 Mae dynion wedi aredig ar fy nghefn
ac agor cwysi hirion.
ARGLWYDD yn ffyddlon,ac wedi torri'r rhaffau sy'n tynnu aradr y rhai drwg.
5 Gwna i bawb sy'n casáu Seion
gael eu cywilyddio a'u gyrru yn ôl!
6 Gwna nhw fel glaswellt ar ben to
yn gwywo cyn ei dynnu;
7 dim digon i lenwi dwrn yr un sy'n medi,
na breichiau'r un sy'n casglu'r ysgubau!
8 A fydd y rhai sy'n pasio heibio ddim yn dweud,
“Bendith yr
ARGLWYDD arnoch chi!Bendith arnoch chi yn enw'r
ARGLWYDD.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity