|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
ARGLWYDD?Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth?
Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i?
2 Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid,
a dal i ddioddef fel yma bob dydd?
Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf?
Ateb fi, O
ARGLWYDD, fy Nuw!Adfywia fi,
rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;
4 rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”
ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.
5 Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon!
Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i.
Bydda i'n canu mawl i ti,
ARGLWYDD,am achub fy ngham.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity