|
|
Cân yr orymdaith.
ARGLWYDD, paid anghofio Dafydd.Roedd e wedi cael amser mor galed.
ARGLWYDDa mynd ar ei lw i Un Cryf Jacob:
na dringo i'm gwely;
4 dw i ddim am adael i'm llygaid orffwys,
na chau fy amrannau,
ARGLWYDD,ie, rhywle i Un Cryf Jacob fyw.”
6 Clywson fod yr Arch yn Effrata;
a dod o hyd iddi yng nghefn gwlad Jaar. Ref
7 Gadewch i ni fynd i mewn i'w dabernacl,
ac ymgrymu wrth ei stôl droed!Croes
ARGLWYDD, dos i fyny i dy demlgyda dy Arch bwerus!
9 Boed i dy offeiriaid wisgo cyfiawnder,
boed i'r rhai sy'n ffyddlon i ti weiddi'n llawen!
10 Paid troi cefn ar yr un rwyt wedi ei eneinio
o achos Dafydd dy was.
ARGLWYDD wedi addo i Dafydd— aeth ar ei lw, a dydy e ddim yn torri ei air —
“Dw i'n mynd i osod un o dy ddisgynyddion di ar dy orsedd.
12 Os bydd dy feibion yn cadw'r ymrwymiad wnaethon ni
a'r amodau dw i wedi eu gosod iddyn nhw,
bydd dy linach frenhinol yn para am byth.”
ARGLWYDD wedi dewis Seion;mae e wedi penderfynu aros yno.
14 “Dyma ble bydda i yn gorffwys am byth,” meddai,
“dw i'n mynd i deyrnasu yma. Ie, dyna dw i eisiau.
15 Dw i'n mynd i'w gwneud hi'n ddinas lwyddiannus,
a rhoi digonedd o fwyd i'r rhai anghenus ynddi.
16 Dw i'n mynd i roi achubiaeth yn wisg i'w hoffeiriaid,
a bydd ei rhai ffyddlon yn gweiddi'n llawen!
17 Dw i'n mynd i godi olynydd cryf i Dafydd;
bydd fel lamp wedi ei rhoi i oleuo'r bobl.
18 Bydda i'n gwisgo ei elynion mewn cywilydd,
ond bydd coron yn disgleirio ar ei ben e.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity