|
|
Molwch enw'r
ARGLWYDD!Addolwch e, chi sy'n gwasanaethu'r
ARGLWYDD ARGLWYDD,yn yr iard sydd yn nhŷ Dduw.
ARGLWYDD, am fod yr ARGLWYDD mor dda!Canwch i'w enw, mae'n hyfryd cael gwneud hynny!
ARGLWYDD wedi dewis pobl Jacob iddo'i hun,ac Israel fel ei drysor sbesial.
ARGLWYDD yn fawr;mae ein Duw ni yn well na'r ‘duwiau’ eraill i gyd.
ARGLWYDD yn gwneud beth bynnag mae e eisiau,yn y nefoedd, ar y ddaear,
ac i lawr i waelodion y moroedd dwfn.
7 Mae e'n gwneud i'r cymylau godi ym mhen draw'r ddaear;
mae'n anfon mellt gyda'r glaw,
ac yn dod â'r gwynt allan o'i stordai.
8 Fe wnaeth daro plentyn hynaf pob teulu yn yr Aifft,
a'r anifeiliaid cyntafanedig hefyd.
9 Gwnaeth arwyddion gwyrthiol yn yr Aifft
yn erbyn y Pharo a'i weision i gyd;
a lladd nifer o frenhinoedd —
Og, brenin Bashan,
a theuluoedd brenhinol Canaan i gyd.
12 Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth —
yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.
ARGLWYDD, mae dy enw di yn para am byth,ac yn cael ei gofio ar hyd y cenedlaethau.
ARGLWYDD yn amddiffyn ei boblac yn tosturio wrth ei weision.
15 Dydy eilunod y cenhedloedd yn ddim byd ond arian ac aur,
wedi eu siapio gan ddwylo dynol.
16 Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;
llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
17 clustiau, ond allan nhw ddim clywed.
Does dim bywyd ynddyn nhw!
18 Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,
a'r bobl sydd yn eu haddoli hefyd,
yn troi'n debyg iddyn nhw!
ARGLWYDD, chi bobl Israel!Bendithiwch yr
ARGLWYDD, chi offeiriaid! ARGLWYDD, chi Lefiaid!Bendithiwch yr
ARGLWYDD, chi rai ffyddlon yr ARGLWYDD! ARGLWYDD, sy'n byw yn Jerwsalem,gael ei fendithio yn Seion!
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity