|
|
dyma ni'n eistedd ac yn wylo
wrth gofio am Seion.
2 Dyma ni'n hongian ein telynau
ar y coed poplys yno.
3 Roedd y rhai oedd yn ein dal ni'n gaeth eisiau i ni ganu;
a'n poenydwyr yn ein piwsio i'w difyrru:
“Canwch un o ganeuon Seion i ni!”
4 Sut allen ni ganu caneuon yr
ARGLWYDDar dir estron?
5 Os anghofia i di, Jerwsalem,
boed i'm llaw dde gael ei pharlysu.
6 Boed i'm tafod lynu wrth dop fy ngeg
petawn i'n anghofio amdanat ti,
a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach
na phopeth arall sy'n rhoi pleser i mi.
ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edomy diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem.Croes
Roedden nhw'n gweiddi, “Chwalwch hi!
Chwalwch hi i'w sylfeini!”
8 Babilon hardd, byddi dithau'n cael dy ddinistrio!
Bydd yr un fydd yn talu'n ôl i ti
ac yn dy drin fel gwnest ti'n trin ni,
yn cael ei fendithio'n fawr!
9 Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di
ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau
yn cael ei fendithio'n fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity