|
|
(Salm 53)
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,
“Dydy Duw ddim yn bodoli.”
Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd;
does neb yn gwneud daioni.
ARGLWYDD yn edrych i lawro'r nefoedd ar y ddynoliaeth
i weld os oes unrhyw un call;
unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3 Ond mae pawb wedi troi cefn arno,
ac yn gwbl lygredig.
Does neb yn gwneud daioni —
dim un!
4 Ydyn nhw wir mor dwp — yr holl rhai drwg
sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,
a byth yn galw ar yr
ARGLWYDD?5 Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau,
am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn.
6 Dych chi'n ceisio drysu hyder yr anghenus,
ond mae'r
ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.7 O, dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion!
Pan fydd yr
ARGLWYDD yn troi'r sefyllfa rowndbydd Jacob yn gorfoleddu,
a bydd Israel mor hapus!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity