|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
ARGLWYDD, rhag pobl ddrwg.Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol,
2 sy'n cynllwynio i wneud drwg i mi,
ac yn ymosod a chreu helynt.
3 Mae ganddyn nhw dafodau miniog;
maen nhw'n brathu fel nadroedd,
ac mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.
Saib
ARGLWYDD, paid gadael i bobl ddrwg gael gafael ynof fi!Cadw fi'n saff rhag y dynion treisiol
sydd eisiau fy maglu i.
5 Mae dynion balch yn cuddio trap i mi;
pobl lygredig yn lledu rhwydau i mi;
ac yn gosod maglau ar fy llwybr.
Saib
ARGLWYDD: “Ti ydy fy Nuw i.”Gwranda, O
ARGLWYDD, wrth i mi erfyn am drugaredd! ARGLWYDD, Meistr, ti ydy'r un cryf sy'n achub;ti oedd yn gysgod i mi yn y frwydr.
ARGLWYDD, paid gadael i'r rhai drwg gael eu ffordd!Paid gadael i'w cynllwyn nhw lwyddo,
rhag iddyn nhw ymffrostio.
Saib
9 Ac am y rhai sydd o'm cwmpas i —
boed i'r pethau drwg maen nhw wedi ddweud eu llethu!
10 Boed i farwor tanllyd ddisgyn arnyn nhw!
Boed iddyn nhw gael eu taflu i bydewau, byth i godi eto!
11 Paid gadael i enllibwyr aros yn y tir.
Gad i ddrygioni'r dynion treisgar eu hela nhw a'u bwrw nhw i lawr.
ARGLWYDDyn gweithredu ar ran y rhai sy'n diodde.
Bydd yn sicrhau cyfiawnder i'r rhai mewn angen.
13 Bydd y rhai cyfiawn yn sicr yn moli dy enw di!
Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn aros yn dy gwmni di.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity