|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD, dw i'n galw arnat: Brysia! Helpa fi!Gwranda arna i'n galw arnat ti.
2 Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,
a'm dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr.
ARGLWYDD, gwarchod fy nghega gwylia ddrws fy ngwefusau.
4 Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,
na gwneud dim gyda dynion sydd felly!
Cadw fi rhag bwyta eu danteithion.
5 Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i,
a'm ceryddu mewn cariad!
Dyna'r olew gorau — boed i'm pen beidio ei wrthod.
Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.
6 Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr,
byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddywedais i.
7 Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi y pridd,
mae ein hesgyrn wedi eu gwasgaru wrth geg Annwn Ref .
ARGLWYDD, fy Meistr;Dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl!
9 Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi eu gosod,
ac oddi wrth faglau y rhai drwg.
10 Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain,
tra dw i'n llwyddo i ddianc.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity