|
|
Mascîl. Salm gan Dafydd, pan oedd yn yr ogof.Croes Gweddi.
1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar yr
ARGLWYDD;dw i'n pledio ar i'r
ARGLWYDD fy helpu.2 Dw i'n tywallt y cwbl sy'n fy mhoeni o'i flaen,
ac yn dweud wrtho am fy holl drafferthion.
3 Pan dw i wedi anobeithio'n llwyr,
rwyt ti'n gwylio'r ffordd i mi.
Maen nhw wedi cuddio magl
ar y llwybr o'm blaen i.
ond does neb yn cymryd sylw ohono i.
Mae dianc yn amhosib! —
does neb yn poeni amdana i.
ARGLWYDD;a dweud, “Ti ydy'r unig le saff i mi fynd,
does gen i neb arall ar dir y byw!”
6 Gwranda arna i'n gweiddi, dw i'n teimlo mor isel.
Achub fi o afael y rhai sydd ar fy ôl;
maen nhw'n rhy gryf i mi.
7 Gollwng fi'n rhydd o'r carchar yma,
er mwyn i mi foli dy enw di.
Bydd y rhai cyfiawn yn casglu o'm cwmpas
am dy fod ti wedi achub fy ngham.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity