|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD, fy nghraig i!Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd,
a'm bysedd i frwydro.
2 Mae'r Un ffyddlon fel castell o'm cwmpas;
fy hafan ddiogel a'r un sy'n fy achub i.
Fy nharian, a'r un dw i'n cysgodi ynddo.
Mae e'n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.
ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr!Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
6 Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!
Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!
7 Estyn dy law i lawr o'r entrychion.
Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!
Achub fi o afael estroniaid
ac sy'n torri pob addewid.
9 O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,
i gyfeiliant offeryn dectant.
10 Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,
ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.
11 Achub fi o afael estroniaid
sy'n dweud celwyddau
ac sy'n torri pob addewid.
12 Bydd ein meibion fel planhigion ifanc
wedi tyfu yn eu hieuenctid;
a'n merched fel y pileri ar gorneli'r palas,
wedi eu cerfio i harddu'r adeilad.
13 Bydd ein hysguboriau'n llawn
o bob math o fwyd;
a bydd miloedd o ddefaid,
ie, degau o filoedd, yn ein caeau.
14 Bydd ein gwartheg yn iach —
heb bla a heb erthyliad;
A fydd dim wylo yn y strydoedd.
15 Mae pobl mor ffodus pan mae pethau felly!
Mae'r bobl sydd â'r
ARGLWYDD yn Dduw iddyn nhwwedi eu bendithio'n fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity