|
|
Mola'r
ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun! ARGLWYDD ar hyd fy mywyd,a chanu mawl i'm Duw tra dw i'n bodoli!
3 Paid trystio'r rhai sy'n teyrnasu —
dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.
4 Mae'r anadl yn mynd allan ohono,
ac mae'n mynd yn ôl i'r pridd;
a'r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!
5 Mae'r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi ei fendithio'n fawr,
Yr un sy'n dibynnu ar yr
ARGLWYDD ei Dduw,6 y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,
y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.
Mae e bob amser yn cadw ei air,
7 yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu,
a bwyd i'r rhai newynog.
Mae'r
ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd. ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall.Mae'r
ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.Mae'r
ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn. ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyrac yn cynnal y plant amddifad a'r gweddwon.
Ond mae e'n gwneud i'r rhai drwg golli eu ffordd.
ARGLWYDD yn teyrnasu am byth;dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity