|
|
Molwch yr
ARGLWYDD o'r nefoedd!Molwch e o'r uchder!
Molwch e, ei holl fyddinoedd!
Molwch e, yr holl sêr!
a'r dŵr sydd uwchben y nefoedd!
ARGLWYDD,am mai fe orchymynodd iddyn nhw gael eu creu.
6 Fe roddodd nhw yn eu lle am byth bythoedd,
a gosod trefn fydd byth yn newid.
ARGLWYDD, chi sydd ar y ddaear,a'r holl forfilod mawr yn y môr dwfn.
8 Y mellt a'r cenllysg, yr eira a'r niwl,
a'r gwynt stormus sy'n ufudd iddo.
9 Y mynyddoedd a'r bryniau i gyd,
y coed ffrwythau a'r coed cedrwydd;
ymlusgiaid ac adar.
11 Yr holl frenhinoedd a'r gwahanol bobloedd,
yr arweinwyr a'r barnwyr i gyd;
hen ac ifanc gyda'i gilydd
ARGLWYDD!Mae ei enw e yn uwch na'r cwbl;
Mae ei ysblander yn gorchuddio'r nefoedd a'r ddaear!
14 Mae wedi rhoi buddugoliaeth i'w bobl,
ac enw da i bawb sydd wedi profi ei gariad ffyddlon,
sef Israel, y bobl sy'n agos ato.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity