|
|
Canwch gân newydd i'r
ARGLWYDD,Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.
2 Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!
Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
3 Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;
ac ar y drwm a'r delyn fach.
ARGLWYDD wrth ei fodd gyda'i bobl!Mae'n gwisgo'r rhai sy'n cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
5 Boed i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu;
a gweiddi'n llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
7 yn barod i gosbi'r cenhedloedd,
a dial ar y bobloedd.
8 Gan rwymo eu brenhinoedd â chadwyni,
a'u pobl bwysig mewn hualau haearn.
9 Dyma'r ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;
a'r fraint fydd i'r rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity