|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD, pwy sy'n cael aros yn dy babell di?Pwy sy'n cael byw ar dy fynydd cysegredig?
2 Y sawl sy'n byw bywyd di-fai,
yn gwneud beth sy'n iawn,
ac yn dweud y gwir bob amser.
3 Dydy e ddim yn defnyddio'i dafod i wneud drwg,
i wneud niwed i neb,
na gwneud hwyl ar ben pobl eraill.
4 Mae'n ffieiddio'r rhai mae Duw'n eu gwrthod,
ond yn anrhydeddu'r rhai sy'n parchu'r
ARGLWYDD.Mae'n cadw ei air hyd yn oed pan mae hynny'n gostus iddo.
5 Dydy e ddim yn ceisio gwneud elw wrth fenthyg arian,Croes
na derbyn breib i gondemnio'r dieuog.
Fydd yr un sy'n byw felly byth yn cael ei ysgwyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity