|
|
Wedi ei chofnodi gan Dafydd.
dw i'n troi atat ti am loches.
ARGLWYDD,“Ti ydy fy Meistr i;
mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”
3 Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,
dw i wrth fy modd gyda nhw.
4 Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraill
yn cael llwyth o drafferthion!
Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.
Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!
ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.Mae fy nyfodol i yn dy law di.
6 Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;
mae gen i etifeddiaeth hyfryd.
ARGLWYDD am fy arwain i;ac am siarad gyda mi yn y nos.
ARGLWYDD gyda mi.Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.
9 Felly, mae fy nghalon i'n llawen!
Dw i'n gorfoleddu!
Dw i'n gwybod y bydda i'n saff!
10 Wnei di ddim gadael i mi fynd i fyd y meirw,
na gadael i'r un sydd wedi cysegru ei hun i ti bydru yn y bedd.
11 Rwyt wedi dangos y ffordd i fywyd i mi;
bydd bod gyda ti yn fy llenwi â llawenydd
a hyfrydwch diddiwedd bob amser.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity