|
|
Gweddi Dafydd.
ARGLWYDD, dw i'n gofyn am gyfiawnder.Gwranda arna i'n galw arnat ti.
Clyw fy ngweddi,
sy'n gwbl ddidwyll.
2 Ti sy'n gallu rhoi cyfiawnder i mi.
Mae dy lygaid yn gweld y gwir.
3 Rwyt wedi dod ata i yn y nos, chwilio fy meddyliau,
fy mhwyso a'm mesur a chael dim byd o'i le.
Dw i'n benderfynol o beidio dweud dim i dy dramgwyddo di.
4 Dw i'n gweld beth mae pobl eraill yn ei wneud,
ond dw i wedi cadw at beth rwyt ti'n ddweud,
ac wedi cadw draw o ffyrdd lladron.
5 Dw i wedi dilyn dy lwybrau di,
a heb grwydro oddi ar y ffordd o gwbl.
achos byddi di'n ateb, O Dduw.
Gwranda arna i.
Clyw beth dw i'n ddweud.
drwy wneud pethau rhyfeddol!
Ti sy'n gallu achub y rhai sy'n troi atat
i'w hamddiffyn rhag yr ymosodwyr.
8 Amddiffyn fi fel cannwyll dy lygad.
Cuddia fi dan gysgod dy adenydd.
9 Cuddia fi oddi wrth y rhai drwg sy'n ymosod arna i;
y gelynion o'm cwmpas sydd eisiau fy lladd.
10 Maen nhw'n gwbl ddidrugaredd!
Maen nhw mor falch wrth gega!
11 Maen nhw wedi fy amgylchynu i,
ac maen nhw am fy mwrw i'r llawr.
12 Maen nhw fel llew yn edrych am ysglyfaeth,
neu lew ifanc yn llechu o'r golwg.
ARGLWYDD!Dos allan yn eu herbyn.
Taro nhw i lawr gyda dy gleddyf!
Achub fi rhag y rhai drwg;
14 Achub fi o afael y llofruddion,
ARGLWYDD!Lladd nhw! Paid gadael iddyn nhw fyw!
Ond i'r rhai sy'n werthfawr yn dy olwg —
rwyt yn llenwi eu boliau,
mae eu plant yn cael eu bodloni
a byddan nhw'n gadael digonedd i'w rhai bach.
15 Caf gyfiawnder, a bydda i'n gweld dy wyneb!
Pan fyddaf yn deffro, bydd dy weld yn ddigon i mi!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity