|
|
(2 Samuel 22:1-51)
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr
ARGLWYDD. Canodd eiriau'r gân hon ar ôl i'r ARGLWYDD ei achub o ddwylo ei holl elynion, ac o afael Saul.Croes Dyma ddwedodd e: ARGLWYDD;ti sy'n rhoi nerth i mi.
ARGLWYDD fel craig i mi,yn gastell ac yn achubwr.
Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani.
yn darian, yn gryfder ac yn hafan ddiogel.
ARGLWYDD sy'n haeddu ei foli,ac achubodd fi oddi wrth fy ngelynion.
4 Ro'n i'n boddi dan donnau marwolaeth;
roedd llifogydd dinistr yn fy llethu.
5 Roedd rhaffau byd y meirw o'm cwmpas;
a maglau marwolaeth o'm blaen.
ARGLWYDD o ganol fy helynt,a gweiddi ar fy Nuw.
Roedd yn ei deml, a clywodd fy llais;
gwrandawodd arna i'n galw.
7 Yna dyma'r ddaear yn symud a crynu.
Roedd sylfeini'r mynyddoedd yn crynu
ac yn ysgwyd am ei fod wedi digio.
8 Daeth mwg allan o'i ffroenau,
a thân dinistriol o'i geg;
roedd marwor yn tasgu ohono.
9 Agorodd yr awyr fel llenni a daeth i lawr.
Roedd cwmwl trwchus dan ei draed.
10 Marchogai ar geriwbiaid yn hedfan,
a codi ar adenydd y gwynt.
11 Gwisgodd dywyllwch fel gorchudd drosto —
cymylau duon stormus;
a gwnaeth gymylau trwchus yr awyr
yn ffau o'i gwmpas.
12 Roedd golau disglair o'i flaen;
saethodd mellt o'r cymylau,
cenllysg a marwor tanllyd.
ARGLWYDD yn yr awyr —sŵn llais y Goruchaf yn galw. Ref
14 Taflodd ei saethau a chwalu'r gelyn;
roedd ei folltau mellt yn eu gyrru ar ffo.
15 Daeth gwely'r môr i'r golwg;
ac roedd sylfeini'r ddaear yn noeth
wrth i ti ruo, O
ARGLWYDD,a chwythu anadl o dy ffroenau.
16 Estynnodd i lawr o'r uchelder
a gafael ynof fi;
tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
17 Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig,
a'r rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
18 Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,
ond dyma'r
ARGLWYDD yn fy helpu i.Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;
mae fy nwylo'n lân
ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
22 Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;
dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
ac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,
ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
25 Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon;
ac yn deg â'r rhai di-euog.
26 Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,
ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
27 Ti'n achub pobl sy'n dioddef,
ond yn torri crib y rhai balch.
28 Ie, ti sy'n goleuo fy lamp, o
ARGLWYDD;fy Nuw sy'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
29 Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;
gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
30 Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;
mae'r
ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
32 Fe ydy'r Duw sy'n rhoi nerth i mi —
mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
33 Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;
fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
dw i'n gallu plygu bwa o bres!
35 Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian;
mae dy law gref yn fy nghynnal.
Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.
36 Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen
a wnes i ddim baglu.
37 Es ar ôl fy ngelynion, a'u dal nhw;
wnes i ddim troi'n ôl nes roedden nhw wedi darfod.
38 Dyma fi'n eu taro nhw i lawr,
nes eu bod yn methu codi;
roeddwn i'n eu sathru nhw dan draed.
39 Ti roddodd y nerth i mi ymladd;
ti wnaeth i'r gelyn blygu o'm blaen.
40 Ti wnaeth iddyn nhw gilio yn ôl.
Dinistriais y rhai oedd yn fy nghasáu yn llwyr.
41 Roedden nhw'n galw am help,
ond doedd neb i'w hachub!
Roedden nhw'n galw ar yr
ARGLWYDD hyd yn oed!Ond wnaeth e ddim ateb.
42 Dyma fi'n eu malu nhw'n llwch i'w chwythu i ffwrdd gan y gwynt;
a'u taflu i ffwrdd fel baw ar y strydoedd.
43 Achubaist fi o afael y rhai oedd yn ymladd yn fy erbyn.
Gwnest fi'n bennaeth ar y gwledydd.
Mae pobloedd wyddwn i ddim amdanyn nhw
yn derbyn fy awdurdod.
44 Maen nhw'n plygu wrth glywed amdana i —
ie, estroniaid yn crynu o'm blaen!
45 Mae pobloedd estron wedi colli pob hyder,
ac yn crynu wrth ddod allan o'u cuddfannau.
ARGLWYDD yn fyw!Bendith ar y graig sy'n fy amddiffyn i!
Boed i Dduw, wnaeth fy achub i, gael ei anrhydeddu!
47 Fe ydy'r Duw sydd wedi dial ar fy rhan i,
a gwneud i bobloedd blygu o'm blaen.
48 Fe ydy'r Duw sydd wedi fy achub i rhag fy ngelynion,
a'm cipio o afael y rhai sy'n fy nghasáu.
Mae wedi fy achub o ddwylo dynion treisgar.
ARGLWYDD,bydda i'n dy foli di o flaen y cenhedloedd
ac yn canu mawl i dy enw:
50 Mae'n rhoi buddugoliaeth i'w frenin —
un fuddugoliaeth fawr ar ôl y llall!
Mae'n aros yn ffyddlon i'w eneiniog —
i Dafydd, ac i'w ddisgynyddion am byth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity