|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Mae'r nefoedd yn dangos ysblander Duw,
a'r awyr yn dweud am grefftwaith ei ddwylo.
2 Mae'r neges yn mynd allan bob dydd;
mae i'w weld yn amlwg bob nos!
3 Does dim llais go iawn, na geiriau,
na dim i'w glywed yn llythrennol.
4 Ond mae pawb wedi clywed beth maen nhw'n ddweud;
a'r neges wedi mynd i ben draw'r byd!
Cododd babell i'r haul yn yr awyr.
5 Mae'n dod allan fel priodfab o'i ystafell;
neu athletwr yn frwd i redeg ras.
ac yn symud o un pen i'r llall.
Does dim yn gallu cuddio rhag ei wres.
ARGLWYDD yn berffaith —mae'n rhoi bywyd newydd i mi!
Mae rheolau yr
ARGLWYDD yn glirac yn gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.
ARGLWYDD yn dangos beth sy'n iawnac yn gwneud y galon yn llawen.
Mae arweiniad yr
ARGLWYDD yn burac yn ein goleuo ni.
ARGLWYDD yn glirac yn aros bob amser.
Mae dyfarniad yr
ARGLWYDD yn gywir —mae e'n gwbl deg bob amser.
10 Mae'r pethau yma'n fwy gwerthfawr nag aur —
ie, llwythi o aur coeth!
Maen nhw'n felysach na'r mêl
sy'n diferu o'r diliau.
11 Ydyn, maen nhw'n rhoi goleuni i dy was;
ac mae gwobr fawr i'r rhai sy'n ufuddhau.
12 Ond pwy sy'n gweld ei feiau ei hun?
O, maddau i mi pan dw i'n pechu heb yn wybod,
13 a cadw fi rhag pechu'n fwriadol.
Paid gadael i bechod reoli fy mywyd i.
Yna byddaf yn ddi-fai,
a dieuog o droseddu yn dy erbyn.
14 Gad i'r cwbl dw i'n ei ddweud a'i feddwl
dy blesio di,
O
ARGLWYDD, fy nghraig a'm hachubwr.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity