|
|
1 Pam mae'r cenhedloedd yn gwrthryfela?
Pam mae pobloedd yn gwastraffu eu hamser yn cynllwynio?
2 Mae brenhinoedd daearol yn gwneud safiad;
a'r llywodraethwyr yn dod at ei gilydd i ymladd
yn erbyn yr
ARGLWYDD a'r un mae wedi'i ddewis Ref , y brenin.3 “Gadewch i ni dorri'n rhydd o'u cadwynau,
a thaflu'r rhaffau sy'n ein rhwymo i ffwrdd!”
4 Mae'r Un sydd ar ei orsedd yn y nefoedd yn chwerthin —
maen nhw'n destun sbort i'r
ARGLWYDD!5 Wedyn mae'n eu dychryn am ei fod mor ffyrnig,
ac yn dweud wrthyn nhw'n ddig:
6 “Dw i wedi gosod fy mrenin yn Seion,
fy mynydd cysegredig!”
7 Gadewch i mi ddweud beth mae'r
ARGLWYDD wedi ei ddatgan:Dwedodd wrtho i,
“Ti ydy fy mab i;
heddiw des i yn Dad i ti.
cei etifeddu'r cenhedloedd.
Bydd dy ystad di yn ymestyn i ben draw'r byd.
9 Byddi'n eu malu â phastwn haearn
yn ddarnau mân, fel darn o grochenwaith.”
10 Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth;
dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol!
ARGLWYDD gyda pharch;byddwch yn falch ei fod wedi'ch dychryn chi!
12 Plygwch, a thalu teyrnged i'r Ref mab;
neu bydd yn digio a cewch eich difa
pan fydd yn dangos mor ddig ydy e.
Mae pawb sy'n troi ato am loches
wedi eu bendithio'n fawr!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity