|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
ARGLWYDD dy ateb pan wyt mewn trafferthion;boed i Dduw Jacob dy gadw di'n saff.
2 Boed iddo anfon help o'r cysegr,
a rhoi nerth i ti o Seion.
3 Boed iddo gofio dy holl offrymau,
a derbyn dy offrymau sydd i'w llosgi.
Saib
4 Boed iddo roi i ti beth wyt ti eisiau,
a dod â dy gynlluniau di i gyd yn wir.
5 Wedyn byddwn yn bloeddio'n llawen am dy fod wedi ennill y frwydr!
Byddwn yn codi baner i enw ein Duw.
Boed i'r
ARGLWYDD roi i ti bopeth wyt ti'n gofyn amdano! ARGLWYDDyn achub ei eneiniog, y brenin.
Bydd yn ei ateb o'r cysegr yn y nefoedd
ac yn rhoi buddugoliaeth ryfeddol iddo, trwy ei nerth.
7 Mae rhai yn brolio yn eu cerbydau rhyfel a'u meirch,
ond dŷn ni'n brolio'r
ARGLWYDD ein Duw.8 Byddan nhw'n syrthio ar lawr,
ond byddwn ni'n sefyll yn gadarn.
ARGLWYDD yn achub y brenin.Bydd yn ateb pan fyddwn ni'n galw arno.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity